Hoffech chi fod yn rhan o arddangosfa gyntaf Tŷ Pawb?
I ddathlu agoriad Tŷ Pawb ac ‘Is this Planet Earth?’ rydym yn estyn gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd anfon eu lluniau o dirlun prydferth ac amrywiol Wrecsam.
I ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ar Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i domen sorod y Bers, mae gan Wrecsam nifer o dirluniau eiconig. Mae gan bawb ffordd wahanol o weld hyn ac rydym ni’n dymuno dathlu’r harddwch ac yr amrywiaeth hon mewn arddangosfa bwysig.
Bydd lluniau yn cael eu casglu i lunio wal enfawr gyda chollage o luniau yn y galeri. Os ydych chi’n ddechreuwr neu’n ffotograffydd proffesiynol, hirdymor, hoffwn eich cynnwys chi. Gall y lluniau fod o unrhyw le yn Sir Wrecsam. Yr unig beth a ofynnwn yw bod y lluniau’n dathlu gymaint â phosib a heb gynnwys pobl.
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch neges e-bost gyda’ch llun digidol ar fformat jpeg i typawb@wrexham.gov.uk gyda ‘ITPE LANDSCAPE WALL’ yn bwnc i’r neges, a’ch enw chi fel enw’r ffeil. Gellir dod â lluniau wedi eu hargraffu / copi caled i Oriel Wrecsam a byddwn yn sganio nhw yma. Rhaid i ddelweddau fod o leiaf 300dpi.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn lluniau yw 9am ddydd Llun 19 Chwefror, 2018. Atgyfeiriwch unrhyw ymholiadau i’r cyfeiriad e-bost uchod.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Phartneriaethau yng Nghyngor Sir Wrecsam: “Oherwydd fy ngwaith gyda Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd a Phartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rydw i’n gwybod bod gan Wrecsam olygfeydd anhygoel i’w cynnig, a byddwn wir yn argymell y tirluniau lleol hyn i ffotograffwyr brwd. Gallwch dynnu lluniau o sawl olygfa drawiadol, ac rydw i’n sicr y bydd y Wal Tirlun yn gwneud ychwanegiad ardderchog i’r digwyddiadau i nodi agoriad Tŷ Pawb.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT