Heddiw, rydym wedi codi baneri Diwrnod y Lluoedd Arfog uwch ben Neuadd y Dref i ddangos ein cefnogaeth i ddynion a merched sydd yn ffurfio cymuned y Lluoedd Arfog.
Eleni bydd y digwyddiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin.
“Mae gan Wrecsam nifer o gysylltiadau cryf gyda’r Lluoedd Arfog”
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Beryl Blackmore, “Unwaith eto rydym ni’n chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog er mwyn cydnabod a diolch i’r lluoedd arfog a’u teuluoedd am yr aberthau maent yn eu gwneud wrth wasanaethu eu gwlad.”
“Mae gennym nifer o gysylltiadau cryf gyda’r lluoedd arfog a phan mae yna ddigwyddiadau, boed nhw’n rhai i ddathlu neu i gofio, mae pobl i’w gweld ar y strydoedd neu’n ymgasglu mewn niferoedd i gydnabod y rôl bwysig maent yn ei chwarae yn ein cymunedau.”
“Gwelwyd hyn yn gynharach y mis hwn pan ddaeth pawb ynghyd i nodi 80 mlynedd ers glaniadau D-Day.
“I’r rhai sy’n mynd i’r digwyddiadau cenedlaethol dymunaf daith ddiogel a phleserus iddynt.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae Motorfest Wrecsam yn dychwelyd eto yn 2024: