Bydd Wrecsam yn croesawu ras feicio fwyaf y Deyrnas Gyfunol, Taith Prydain, am y tro cyntaf am wyth mlynedd ym mis Medi.
Bydd mwy na chant o feicwyr gorau’r byd yn heidio i’r ddinas sydd wedi’i chadarnhau fel man terfyn ail gymal y ras ddydd Llun 4 Medi.
Y tro diwethaf y bu Wrecsam yn rhan o’r Daith oedd pan gynhaliwyd y Grand Départ yma yn 2015. Y gwibiwr a chyn-bencampwr Ewrop o’r Eidal, Elia Viviani, a fu’n fuddugol y diwrnod hwnnw o flaen ffefryn y dorf o 10,000 o bobl, Mark Cavendish.
Yn fwy diweddar dechreuodd cymal o Daith Prydain y Merched yn y ddinas fis Mehefin y llynedd.
Ers ailddechrau yn 2004 mae Taith Prydain wedi dod yn un o’r dyddiadau pwysicaf yng nghalendr chwaraeon y Deyrnas Gyfunol. Mae mwy na phymtheg miliwn o bobl wedi dod i wylio’r digwyddiad ac mae’r ras wedi cynhyrchu mwy na £330 miliwn i’r economi genedlaethol hyd yn hyn.
Cyhoeddir manylion llawn yr ail gymal – gan gynnwys yr union fan cychwyn, llwybr y ras a’r amserlen – yn nes at yr amser.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Wrth gynnal ail gymal Taith Prydain bydd sylw’r byd ar y Fwrdeistref Sirol unwaith eto, ymysg yr holl firi a dathlu sy’n digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd.
“Ni ydi dinas ieuengaf Cymru, mae gennym ni glwb pêl-droed anhygoel, rydyn ni’n gwneud ffrindiau ac yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd – a rŵan rydyn ni wedi’n dewis yn un o’r lleoliadau allweddol ar gyfer un o’r digwyddiadau pwysicaf ym myd beicio rhyngwladol.
“Chewch chi ddim gwell na hynny, a bydd y digwyddiad yn dod â budd enfawr i’r economi leol – gan helpu i godi proffil Wrecsam fel lle i gynnal digwyddiadau cyffrous, a dod â mwy o bobl i ganol y ddinas.
“Mae hyn yn newyddion bendigedig i Wrecsam”
Dywedodd Mick Bennett, Cyfarwyddwr Ras Taith Prydain: Rydym wrth ein bodd yn croesawu Wrecsam yn ôl i gylch Taith Prydain wedi saith mlynedd allan ohoni. Mae’r ddinas yn sicr wedi hen arfer erbyn hyn â chael sylw’r byd chwaraeon arni, ac felly rydyn ni’n ffyddiog y bydd pobl unwaith eto’n heidio i’r strydoedd yn eu miloedd i weld ras gyflym a chyffrous ddydd Llun 4 Medi!
“Wedi gweithio yn Wrecsam y llynedd i gynnal cymal difyr iawn o Daith y Merched mae’n braf gallu dod ynghyd yma eto yn 2023 i ddod â digwyddiad cofiadwy arall i bobl Wrecsam.”
Bydd Taith Prydain 2023 yn dechrau ym Manceinion Fwyaf ddydd Sul 3 Medi ac yn dod i ben, wedi wyth o gymalau, yn ne Cymru ddydd Sul 10 Medi. Ar hyd y ffordd bydd y beicwyr yn rasio drwy ddwyrain Swydd Efrog, Swydd Nottingham, Suffolk ac Essex gan greu cyffro bythgofiadwy y gall pawb ddod i’w wylio yn rhad ac am ddim.
Cyhoeddir mwy o fanylion am y ras eleni, gan gynnwys llwybrau llawn y cymalau a’r timau sy’n cystadlu, yn yr wythnosau nesaf.
Bydd ITV4 unwaith eto’n darlledu pob cymal ar ei hyd yn fyw ac yn dangos uchafbwyntiau bob nos.