Mae’r digwyddiad Heneiddio’n Dda a gynhaliwyd ar 26 Mehefin yn Nhŷ Pawb wedi cael ei ganmol ar ôl iddo ddenu nifer fawr o bobl ac ymgysylltiad cryf gan drigolion, darparwyr gwasanaethau ac eiriolwyr cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Oedolion: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr i ddarparwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Roedd yn wych gweld cymaint o aelodau o’r cyhoedd yn cael gwybodaeth a chyngor gan yr ystod eang o sefydliadau a oedd yn bresennol. Byddwn i’n annog pawb i ymweld â’n gwefan i ddysgu mwy am Heneiddio’n Dda yn Wrecsam a’r gefnogaeth sydd ar gael.”
Gyda dros 20 o asiantaethau’n cymryd rhan, daeth y digwyddiad â gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ynghyd, gyda phawb yn angerddol am wella bywydau oedolion hŷn. Ymgysylltodd mynychwyr ag arbenigwyr ar draws sectorau iechyd, lles a chymorth cymunedol – gan feithrin cysylltiadau a gwella ymwybyddiaeth o wasanaethau hanfodol.
Mynychwyd y digwyddiad hefyd gan David McKinney, Arweinydd Heneiddio’n Dda Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a fyfyriodd ar bwysigrwydd mentrau sy’n cael eu gyrru gan y gymuned: “Roedd yn ysbrydoledig gweld pawb yn cysylltu ac yn adeiladu’r rhwydweithiau a’r perthnasoedd hanfodol sydd eu hangen i Wrecsam Oed-Gyfeillgar ffynnu.
“Mae cymaint o help a chefnogaeth ar gael, cymaint yn digwydd, a chymaint o aelodau cymunedol ymroddedig, cyfeillgar a brwd yn gweithio gyda’i gilydd i wneud Wrecsam yn lle gwych i fyw a heneiddio’n dda.”

Roedd yr awyrgylch hyfryd yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredin y gymuned i heneiddio’n dda, gyda chefnogaeth egnïol mynychwyr o bob oedran. Un uchafbwynt arbennig oedd perfformiad emosiynol côr y cenedlaethau o Ysgol Gynradd y Santes Anne, y gwnaeth eu cyfraniad ddod â mwy fyth o gynhesrwydd ac undod i’r achlysur.
Yn dilyn llwyddiant eleni, mae’r trefnwyr eisoes yn cynllunio mwy o ddigwyddiadau ar gyfer gwanwyn 2026 – gyda’r nod o adeiladu ar y momentwm a pharhau i sgwrsio am heneiddio’n iach yn Wrecsam.
Cymerwch olwg ar ein gwefan i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am heneiddio’n dda yn Wrecsam.