Efallai bydd ffoaduriaid sy’n ffoi rhag yr argyfwng dyngarol yn cael eu croesawu i Wrecsam, gyda chefnogaeth bellach gan y Cyngor yn cael ei argymell.
Gallai Wrecsam groesawu mwy o deuluoedd o ffoaduriaid Syria, o dan Gynllun Adleoli Unigolion Agored i Niwed o Syria, sy’n cael ei arwain gan y Swyddfa Gartref.
Mae’r gwrthdaro parhaus yn Syria wedi gorfodi mwy na 6.5 miliwn o bobl o’u cartrefi, wedi dadleoli 2.7 miliwn o bobl i wledydd cyfagos ac mae miliynau o rai eraill mewn angen dybryd am gymorth dyngarol yn Syria.
Mae Cyngor Wrecsam yn un o’r sawl awdurdod lleol ar draws y Deyrnas Unedig sydd wedi cymryd rhan yng nghynllun y Swyddfa Gartref er mwyn dod o hyd i lety a chefnogaeth i ffoaduriaid o Syria.
I ddechrau, cytunodd y Cyngor i gefnogi pum teulu o Syria ym mis Mai 2015, gyda theuluoedd yn cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17.
Bu cytundeb yn dilyn hyn ym mis Rhagfyr 2016 i gefnogi pum teulu pellach yn ystod 2017-18.
Bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn pleidleisio ar dderbyn teuluoedd pellach o Syria yn ystod 2018/19 a 2019/20, ar yr un gyfradd o bum teulu’r flwyddyn.
Mae cyllid ar gyfer y cynllun yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref, ac mae’n talu am gostau cefnogi ffoaduriaid am uchafswm o bum mlynedd.
Mae Cyngor Wrecsam yn cydlynu’r cynllun yn lleol, gyda chefnogaeth gan nifer o elusennau a phartneriaid cyhoeddus.
Trafodir y cynigion mewn cyfarfod ym Mwrdd Gweithredol y Cyngor ddydd Mawrth, 12 Rhagfyr.
Ers i Gyngor Wrecsam gytuno i gymryd rhan yn y cynllun, mae wyth o deuluoedd – cyfanswm o 36 o bobl – wedi cael eu nodi a’u dyrannu i Wrecsam gan y Swyddfa Gartref.
Mae’r teuluoedd hynny eisoes wedi ymgartrefu yn Wrecsam ac wedi derbyn “croeso cynnes”, ac wedi adrodd ar gefnogaeth gref ac ysbryd croesawgar eu cymdogion yn y gymuned.
“Cynigion yn dilyn ‘croeso cynnes’”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “I ddechrau, cytunodd Cyngor Wrecsam i gefnogi pum teulu o Syria ym mis Mai 2015, ac fe gytunon nhw i gefnogi pump pellach ym mis Rhagfyr 2016.
Daeth y cynigion fel rhan o’r hanes hynny o gefnogaeth a llwyddiant y prosiect hyd yn hyn – yn ogystal â’r croeso cynnes a dderbyniodd y ffoaduriaid dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae asiantaethau ac adrannau unigol hefyd wedi adrodd – yn amodol ar gyllid parhaus a digonol gan y Swyddfa Gartref a’r adnoddau ar gael – y byddant yn cefnogi’r argymhelliad.”
“Rydw i’n edrych ymlaen at gyflwyno fy adroddiad i’m cydweithwyr ar y Bwrdd Gweithredol ar 12 Rhagfyr.”