Mae’r Wythnos Addysg Oedolion, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn ar hyd a lled Cymru, yn ddathliad o ddysgu gydol oes. Eleni mae’n digwydd rhwng 15 a 21 Medi 2025.
Yn ystod yr wythnos hon bydd sesiynau yn cael eu cyflwyno i oedolion sy’n byw yn yr ardal, gan roi cyfle i chi roi cynnig ar weithgaredd newydd, neu ddatblygu eich sgiliau – am ddim!
Cymerwch olwg ar beth sydd ar gael yn Wrecsam…
Llyfrgell Wrecsam
Darparu gan Groundwork Gogledd Cymru (gyda chefnogaeth ein partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned).
Hyb Cymunedol y Parc, Gwersyllt
Darparu gan Coleg Cambria (gyda chefnogaeth ein partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned).
Lleoliadau eraill
Dosbarthiadau a ddarperir gan The Little Learning Company, Addysg Oedolion Cymru, neu Partneriaeth Parc Caia:
Yr Hwb Lles
Mae ein Hwb Lles yn nghanol y ddinas yn cynnig lle i geisio cyngor a chymorth i roi hwb i’ch lles.
- Macrame: Dydd Llun, 15 Medi, 1-3pm – archebwch ar-lein
- Cyflwyniad i Flocbrintio: Dydd Mawrth 16 Medi 1-3pm – archebwch ar-lein
- Ymarfer corff ar gadair: Dydd Iau 18 Medi, 1-2pm – archebwch ar-lein
- Ioga ar gadair: Dydd Gwener 19 Medi, 10.30-11.15am – archebwch ar-lein
Rebuild With Hope, Dôl yr Eryrod
- Celf a Chrefft er Lles – cwrs bore wythnosol yn dechrau ddydd Llun, 15 Medi
- Trefnu Blodau – cwrs wythnosol gyda’r nos yn dechrau ddydd Llun, 15 Medi
- Modelu Clai – cwrs prynhawn wythnosol yn dechrau ddydd Iau, 18 Medi
Ystafell Gymunedol Tesco, Ffordd Cilgaint
Canolfan Hamdden Plas Madoc, Acrefair
Yr Hen Milk Bar, Y Waun
Partneriaeth Parc Caia, Prince Charles Road
Digwyddiadau ychwanegol
Gwiriwch yr holl ddosbarthiadau a restrir ar gyfer yr wythnos yn ardal Gogledd-ddwyrain Cymru drwy’r nodwedd chwilio am gwrs Wythnos Addysg Oedolion.
Digwyddiadau’r dyfodol
Y tu hwnt i’r ymgyrch hon gallwch hefyd gadw llygad am ddigwyddiadau crefft, lles ac addysg yn Wrecsam yn y dyfodol drwy gymryd golwg ar ein catalog digwyddiadau ar-lein, yn ogystal ag ar wefannau sefydliadau partner y cyfeirir atynt yn yr erthygl hon.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion