Ar 1 Hydref, 2025, mae Wrecsam yn ymuno â chymunedau ledled y DU i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Y thema eleni yw: “Magu Ymdeimlad o Berthyn: Dathlu Pŵer ein Cysylltiadau Cymdeithasol.”
Mae’r diwrnod yn tynnu sylw at y rôl hanfodol mae pobl hŷn yn ei chwarae o ran cryfhau gwead cymdeithasol ein cymunedau – fel gofalwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr a chysylltwyr.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr aelod arweiniol dros ofal cymdeithasol i oedolion: “Eleni, mae’r ffocws ar bwysigrwydd perthnasoedd – o gyfarchion bob dydd i bondiau gydol oes – a sut maen nhw’n helpu pobl hŷn i deimlo’n gartrefol yn eu cymunedau.”
Mae Heneiddio’n Dda Wrecsam yn annog grwpiau lleol, cartrefi gofal a phreswylwyr i nodi’r diwrnod gyda gweithgareddau sy’n meithrin cysylltiad, fel sesiynau paned a sgwrs, adrodd straeon, a theithiau cerdded cymunedol.
Os hoffech gymryd rhan yn Fforwm Heneiddio’n Dda Wrecsam a helpu i lunio dyfodol sy’n dda i bobl hŷn, cysylltwch â ni yn commissioning@wrexham.gov.uk .
Gwahoddir pawb i rannu straeon, lluniau a negeseuon am berthyn gan ddefnyddio’r hashnodau #MeithrinPerthyn #HeneiddionDdaynWrecsam #CanolfanHeneiddionWell.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.