Gyda Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad rownd y gornel, rydym yn agor ein harchifau i ddod â detholiad bach o straeon am arwyr lleol a aberthodd eu bywydau er mwyn i ni fyw mewn heddwch.
Diolch i’n gwasanaethau amgueddfa ac archifau yma yn Wrecsam, gall yr atgofion o’r eneidiau dewr hyn barhau i gael eu cofio am flynyddoedd lawer i ddod.
Arwr yn yr awyr
Ganwyd Fred Rosier, Is-gyrnol yr Awyrlu Brenhinol, yn Wrecsam ym 1915 ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Sirol Wrecsam. Cafodd ei ddisgrifio mewn erthygl newyddion lleol fel “cyn-ddisgybl poblogaidd” o ysgol Grove Park.
Ym 1935, comisiynwyd Rosier a rheolodd asgell ymladdwyr yn ystod ymgyrch yn Libya yn yr awyr ac ar y tir.
Yn ystod ymgyrch Libya, cafodd yr Is-gyrnol Rosier ei dynnu i mewn i sgarmes yn yr awyr ger El Adem. Wrth ymladd, gwelodd Rosier un o’i gyfeillion yn cael ei saethu i lawr i’r anialwch islaw.
Yn anhygoel, glaniodd yr Is-gyrnol ei awyren Hurricane wrth ymyl ei gyd-beilot a dod ag o ar fwrdd ei awyren.
Ar ôl codi, bu’n rhaid iddynt gwympo a glanio’r awyren yn glec oherwydd bod teiar wedi byrstio, a anfonodd y parti achub yn ôl i’r llawr. Cafodd yr awyrenwyr eu hamgylchynu gan filwyr Eidalaidd. Cawson nhw eu herio ddwywaith gan yr Eidalwyr ond yn ffodus llwyddon nhw i ddianc yn nhywyllwch y nos.
Ar ôl taith pedwar diwrnod a chael eu rhestru ar goll, fe wnaeth y ddau beilot gyrraedd yn ôl i’w Sgwadron Ymladdwyr Uwch. Ar ôl dychwelyd, dyfynnwyd Rosier yn dweud, “Wel, dyma ni eto”.
Mewn cydnabyddiaeth o’r dewrder a ddangosodd, dyfarnwyd cydnabyddiaeth yr Urdd Gwasanaeth Nodedig i’r Is-gyrnol Fred Rosier.

Mewn perygl ar y môr
Roedd HMS Upholder yn un o longau tanfor Dosbarth U y Llynges Frenhinol a oedd â record gwasanaeth o statws arwrol. Cafodd ei disgrifio fel “llong o arwyr”.
Mae ganddi 14 llwyddiant i’w henw trwy gydol ei gyrfa gan gynnwys suddo tair llong danfor, llong ddistryw a threill-long arfog. Trwy gydol ei gyrfa, cafodd ei rheoli gan yr Is-gomander Malcolm David Wanklyn.
Ar Ebrill 6, 1942, cychwynnodd yr Upholder ar ei 25ain patrôl, a dyma fyddai ei holaf cyn iddi ddychwelyd i Loegr. Yn drychinebus, collwyd HMS Upholder, ynghyd â’r holl aelodau ar y bwrdd. Ar Awst 22 1942, cyhoeddodd y Morlys ei cholled, gan arwain llu o deyrngedau a chanmoliaeth uchel i bawb a wasanaethodd arni.
Ymhlith y rhai a gollodd eu bywydau ar yr Upholder oedd Mr Gwilym Hughes o Bonciau. Roedd yn 25 oed ac yn fab i Mr a Mrs Samuel Hughes.
Cyn ymuno â’r Llynges, bu Gwilym yn gweithio yn nepo Johnstown cwmni Crosville Motor Services. Cafodd ei ddisgrifio yn y newyddion lleol fel un a oedd â “natur ddymunol” gyda grŵp mawr o ffrindiau.
Aeth teyrngedau ymlaen i ddweud, er bod ffrindiau a theulu yn galaru am ei golled, roeddent yn falch iawn ei fod wedi gwasanaethu ar long mor nodedig.

Rhyfel yn rhannu
Bob wythnos o’r rhyfel, cyhoeddwyd colofn “Gwasanaeth Gweithredol” yn y papur lleol. Yma, byddai teuluoedd lleol yn anfon lluniau o’u hanwyliaid yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog i’w hargraffu yn yr erthygl.
Isod, mae gennym enghraifft o deulu a anfonwyd i wahanol gyfeiriadau oherwydd y rhyfel. Cyflwynodd Mr a Mrs Evan Evans o Rosymedre luniau o’u tri mab a oedd yn gwasanaethu.
Gwasanaethodd A/C S. J. Evans gyda’r Awyrlu Brenhinol. Gwasanaethodd L/Cpl D. J. Evans gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Gwasanaethodd y trydydd brawd, S.P/O R. H. Evans gyda’r Llynges Frenhinol. Dyma enghraifft deimladwy i’n hatgoffa o sut roedd rhyfel yn gwahanu teuluoedd mewn cymaint o ffyrdd.

Beth am weld a allwch chi ddod o hyd i straeon arwrol o’r rhyfel yn eich teulu? Mae gan ein gwasanaeth archifau ystafell chwilio newydd wedi’i lleoli yn llyfrgell Wrecsam. Mae ar agor yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Galwch heibio yn ystod eu horiau agor a gweld pwy allech chi ddod o hyd iddo yn eich coeden deulu.


