Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn dathlu 10 mlynedd ers i Sgoriau Hylendid Bwyd ddod yn gyfreithiol orfodol yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn dathlu 10 mlynedd ers i Sgoriau Hylendid Bwyd ddod yn gyfreithiol orfodol yng Nghymru
Y cyngorPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn dathlu 10 mlynedd ers i Sgoriau Hylendid Bwyd ddod yn gyfreithiol orfodol yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 1, 2023 1:08 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Food Hygiene
RHANNU

Mae 10 mlynedd wedi bod ers i Gymru arwain y gad fel y wlad gyntaf yn y DU i wneud dangos sgoriau hylendid bwyd yn gyfreithiol orfodol. Ers mis Tachwedd 2013, mae’r gyfraith wedi mynnu bod busnesau yng Nghymru’n dangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn lle amlwg – fel y drws ffrynt, y fynedfa neu ffenestr amlwg.

Mae cwsmeriaid a busnesau wedi parhau i weld manteision y Cynllun Sgoriau Hylendid Bwyd ac mae’n cael ei ddathlu, yn haeddiannol, fel un o gyflawniadau mwyaf y wlad o ran iechyd y cyhoedd yn yr 21ain ganrif.

Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r cynllun wedi annog gwell safonau ymysg busnesau bwyd yn Wrecsam, gyda thros 92.9% o fusnesau’n dangos sgôr o 5 a 98.8% gyda sgôr o 3 neu uwch.

Cymryd hylendid bwyd a safonau o ddifrif

Mae’r sticeri du a gwyrdd amlwg sydd i’w gweld mewn bwytai, caffis ac archfarchnadoedd ac ar-lein yn rhoi sicrwydd i bobl bod busnesau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn cymryd hylendid bwyd a safonau o ddifrif. 

Mae sticeri sgoriau hylendid bwyd yn ffordd syml a thryloyw o ddangos canlyniadau archwiliad hylendid sydd wedi’i wneud gan swyddogion yr Awdurdod Lleol. Mae’r cynllun yn rhoi hyder i gwsmeriaid bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn modd glân a bod y busnes yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer hylendid bwyd.

Mae’r cynllun yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau doeth am y mannau lle maent yn prynu bwyd ac yn bwyta bob dydd. Mae mwy o fanteision hefyd – mae gorfodi busnesau i arddangos eu sgôr hylendid hefyd yn eu hannog i wella eu safonau hylendid. Gall pob busnes bwyd ennill y sgôr uchaf, sef ‘5 – da iawn’ drwy wneud yr hyn mae angen iddynt ei wneud dan gyfraith bwyd. Cofiwch – mae sgôr hylendid bwyd yn dda ar gyfer busnes ac yn rhoi mantais gystadleuol i’r rhai sy’n ennill y sgôr hylendid orau.

Mae’r cynllun wedi cael effaith go iawn ar hylendid. Mae safonau hylendid mewn busnesau bwyd wedi gwella o ganlyniad i’r cynllun gorfodol, a 96% o fusnesau yng Nghymru bellach yn dangos sgôr o ‘3’ neu uwch. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch bwyd.

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:

“Rydyn ni’n falch o gynnal y Cynllun Sgoriau Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru. Mae Awdurdodau Lleol yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun. Drwy ymgysylltu efo busnesau bwyd yn rheolaidd, maen nhw wedi bod yn allweddol i wella safonau hylendid i’r lefel sydd i’w gweld heddiw. Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio gyda’u punnoedd neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.”

Holwch ynglŷn â’r Safon Hylendid Bwyd, chwiliwch am y sticer, neu edrych ar-lein cyn prynu bwyd.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwiriwch fod y tacsi yr ydych yn mynd iddo yn gyfreithlon!

Rhannu
Erthygl flaenorol Sgwrs Hinsawdd Sesiwn galw heibio Sgwrs Hinsawdd -dywedwch eich dweud!
Erthygl nesaf Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English