Mae Motorfest Wrecsam yn ôl ac yn addo diwrnod llawn cyffro a hwyl gydag arddangosfeydd moduron anhygoel, adloniant byw a gweithgareddau ar gyfer y teulu oll. Wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf o 11am i 6pm yn Fferm Penyllan, Marchwiail, disgwylir i ddigwyddiad eleni fod yn ddathliad trawiadol o bob dim i’w wneud â moduron yn ogystal â chodi arian hanfodol at Hosbis Tŷ’r Eos.
Hosbis Tŷ’r Eos a Thîm Digwyddiadau Cyngor Wrecsam sy’n trefnu, ac mae digwyddiad 2024 yn mynd i fod yn ddigwyddiad unigryw yn y calendr cymunedol.
Mae’r digwyddiad am ddim ond rydym yn annog pobl i gyfrannu at gefnogi’r gwasanaethau a’r gofal y mae Tŷ’r Eos yn ei roi i bobl a’u teuluoedd gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd.
Mae uchafbwyntiau Motorfest 2024 yn cynnwys:
Bolddogs: Yn dilyn poblogrwydd llynedd mae tîm Bolddogs yn eu holau i syfrdanu’r gynulleidfa gyda’u campau motocross dewr.
Tryc Creadur Red Dragon: Profwch y wefr o fynd ar gefn Tryc Creadur Red Dragon a hyd yn oed ei wylio’n gwasgu car!
Cerddoriaeth ac Adloniant Byw: Mwynhewch amrywiaeth o artistiaid cerddorol a pherfformiadau trwy gydol y dydd.
Bwyd a Diod: Bydd amrywiaeth o stondinau bwyd a diod ar gael i gadw pawb yn fodlon trwy’r dydd.
Rhannodd Elise Jackson, Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Hosbis Tŷ’r Eos ei brwdfrydedd am y digwyddiad sydd ar y gweill: “Rydym wedi cyffroi i gael cyhoeddi Motorfest 2024! Eleni byddwch yn barod am gyfuniad cyffrous o sioeau moduron ac adloniant i’r teulu cyfan. Mae mynediad am ddim gyda’r cyfle i gyfrannu at Hosbis Tŷ’r Eos wrth i chi ddod i mewn i’r digwyddiad. Diolch i’ch caredigrwydd llynedd dyma ni’n llwyddo i godi cyfanswm anhygoel o £13,000 a gyda’ch cefnogaeth barhaus rydym yn bwriadu rhagori ar hynny eleni. Peidiwch â cholli allan ar y digwyddiad anghofiadwy hwn – nodwch y dyddiad yn eich calendrau ac ymunwch â ni ar gyfer diwrnod o gyffro llawn moduron ac ysbryd cymunedol!”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Motorfest yn ôl eleni, ac mae’n bleser mawr cael gweithio gyda Hosbis Tŷ’r Eos unwaith eto. Maent yn elusen wych yn Wrecsam y mae ei gwaith yn amhrisiadwy i’n cymuned. Edrychwn ymlaen at ddigwyddiad bywiog arall sy’n llawn hwyl, sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn codi arian ar gyfer achos pwysig.”
Nodwch y dyddiad canlynol yn eich dyddiaduron – dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf gan fynd â’r holl deulu i Motorfest Wrecsam am ddiwrnod llawn hwyl, cyffro a phob dim i’w wneud gyda cherbydau, a chefnogi elusen leol ar yr un pryd.
Am fwy o wybodaeth ar Motorfest Wrecsam ewch i’n gwefan Nightingale House Hospice website neu cysylltwch â lowri.sadler@nightingalehouse.co.uk
Get the latest news and info straight into your inbox.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch