Mae Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden nid er elw mwyaf y DU sy’n rheoli’r Byd Dŵr, Wrecsam ar ran Cyngor Wrecsam, yn falch o gyhoeddi y cafodd ei enwi yn rownd derfynol gwobrau mawreddog Gwobrau Actif DU 2024.
Cafodd y tîm yn y Byd Dŵr ei roi ar y rhestr fer yn rownd derfynol ‘Canolfan Ranbarthol y Flwyddyn’ ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn tanategu’r ymrwymiad a’r rhagoriaeth a’r arloesedd yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd gan y staff yn y Byd Dŵr.
Mae Gwobrau Actif DU, yn dathlu sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i sector diwydiant hamdden y genedl. Mae cael eu rhoi ar y rhestr fer yn y rownd derfynol, yn destament i ymroddiad Freedom Leisure i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a maethu ymagwedd gymuned-ganolog tuag at iechyd a llesiant.
Mae Byd Dŵr Wrecsam yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau
Mae Byd Dŵr Wrecsam yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, nofio a rhaglenni llesiant. Eu cenhadaeth yw gwella bywydau drwy hamdden gan sicrhau fod eu hadnoddau yn hygyrch, croesawgar a bod yr amgylcheddau’n gefnogol o bawb.
Bydd seremoni Gwobrau Actif DU yn digwydd ar 3 Hydref, 2024, yn Birmingham, ble y caiff enillwyr eu cyhoeddi ar draws yr amrywiol gategorïau. Hefyd, cafodd Freedom Leisure ei osod ar restr fer pedwar categori pellach yng ngwobrau eleni ac mae’n gyffrous o ymuno ag arweinwyr eraill y diwydiant wrth ddathlu cyflawniad ac arloesi sy’n llywio’r sector ymarfer corff yn ei flaen.
Am ragor o wybodaeth am Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr a’u gwasanaethau, ewch i https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/centres/canolfan-hamdden-a-gweithgareddau-byd-d%C5%B5r/
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Masnachu am ddim ym Marchnad Wrecsam ar ddydd Llun yn ymestyn i 31 Rhagfyr!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch