Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > 2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 26, 2026 2:17 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim
RHANNU

Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd gyda ni? Os nad ydych chi’n gwneud hynny eisoes, dylech chi wir ddechrau…

Cynnwys
  • 1. Eu casglu o dros 40 o leoliadau yn Wrecsam
  • 2. Clymwch leinin i handlen eich cadi
  • “Anelu at ei gwneud hi’n hawdd i drigolion ailgylchu yn Wrecsam”
    • Archebwch gadi newydd yn hawdd ar-lein
    • Beth sy’n mynd yn eich cadi bwyd?

Yn y bôn, mae ailgylchu bwyd dros ben yn syml, ac yn llawer mwy hylan na’u rhoi yn eich biniau eraill.

Mae gan ein gwasanaeth ailgylchu bwyd bopeth yn ei le eisoes, felly cewch y pethau sydd eu hangen arnoch i ailgylchu gwastraff bwyd yn hawdd. Mae’n gweithio fel hyn:

  • Rydyn ni’n cynnig cadis bwyd am ddim (i’w harchebu’n hawdd ar ein gwefan)
  • Rydyn ni’n darparu leiniau cadis am ddim i chi eu defnyddio (fe ddysgwch sut mewn eiliad)
  • Yna rydyn ni’n casglu eich gwastraff bwyd wrth ymyl y palmant yn wythnosol

Mae yna gwpl o ffyrdd y gallwch chi gael ein leiniau cadis am ddim. Dyma beth sydd angen i chi ei wneud…

1. Eu casglu o dros 40 o leoliadau yn Wrecsam

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gasglu leiniau cadis am ddim a sachau glas newydd mewn amrywiaeth o leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleusterau, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu?

Rydyn ni wedi eu hailstocio yn ddiweddar, felly gallwch alw heibio i un o’r safleoedd lleol a chasglu’r eitemau am ddim pan fydd eu hangen arnoch.

Gweld y 40 lleoliad

2. Clymwch leinin i handlen eich cadi

Gallwch gael ein leininau cadis am ddim trwy glymu leinin gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Mae’r criwiau ailgylchu hefyd yn cario sachau glas ar eu cerbyd, felly gallwch ofyn i un o’r tîm am un newydd y tro nesaf y byddwn yn casglu o’ch stryd.

“Anelu at ei gwneud hi’n hawdd i drigolion ailgylchu yn Wrecsam”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae’r leiniau cadis am ddim (ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd) a’r sachau glas (ar gyfer ailgylchu papur a chardbord) ar gael mewn dros 40 o leoliadau ledled y fwrdeistref sirol, gan ein bod yn anelu at ei gwneud hi’n hawdd i drigolion ailgylchu yn Wrecsam.

“Neu os yw’n well gennych, gallwch glymu leinin i’ch cadi bwyd ar eich diwrnod casglu, a bydd y criw yn gadael rholyn i chi. Maen nhw hefyd yn cario sachau glas ar y wagenni os oes angen un newydd arnoch hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu eich bwyd dros ben gyda ni – mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

Archebwch gadi newydd yn hawdd ar-lein

Rydyn ni’n cynnig cadis newydd am ddim, felly os nad oes gan eich cartref gadi cegin neu gadi ymyl ffordd ewch ati i archebu un newydd.

Gallwch ofyn am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan, lle gallwch chi hefyd archebu blychau ailgylchu newydd os oes eu hangen arnoch.

Beth sy’n mynd yn eich cadi bwyd?

Yn ogystal â phopeth y byddwch chi eisoes yn gwybod amdano, edrychwch ar y rhestr hon sy’n nodi rhai o’r bwydydd nad ydych chi o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw, fel:

  • Bwydydd sydd wedi mynd yn hen
  • Esgyrn a charcasau
  • Plisg wyau
  • Crwyn bananas (a chrwyn eraill)
  • Calonnau afalau
  • Gronynnau coffi
  • Bwydydd amrwd
  • Bwydydd sydd wedi llwydo
  • Gweddillion oddi ar y plât
  • Prydau parod heb eu bwyta
  • Bwyd cyflym (e.e. sglodion a pizzas)
  • Pysgod cregyn

Pethau nad ydyn ni am i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd yw hylifau (fel olew neu laeth), deunydd pecynnu, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.

Dysgwch fwy am yr hyn y gellir ei ailgylchu ar ein gwefan.

Gwaith torri glaswellt wedi’i drefnu ar gyfer coridor yr A483 – Newyddion Cyngor Wrecsam

TAGGED:ailgylchufood wastegwastraffgwastraff bwydrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam i anrhydeddu'r Gwarchodlu Cymreig gyda gorymdaith, gwasanaeth a chofeb newydd Wrecsam i anrhydeddu’r Gwarchodlu Cymreig gyda gorymdaith, gwasanaeth a chofeb newydd
Erthygl nesaf Report hate crime Pam mae rhoi gwybod am droseddau a digwyddiadau casineb yn bwysig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English