Mae 10-16 Mawrth 2025 yn Wythnos Croeso i dy Bleidlais, pan fydd ysgolion a grwpiau ieuenctid yn dathlu democratiaeth.
Bob blwyddyn, mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar un thema allweddol a’r thema eleni fydd…bod yn wybodus a chymryd rhan.
Mae’r Wythnos Croeso i dy Bleidlais yn cefnogi pobl ifanc i gael gafael ar wybodaeth ddibynadwy i fod yn wybodus am wleidyddiaeth, democratiaeth ac etholiadau, a chymryd y camau cyntaf i gymryd rhan yn lleol. P’un a yw’n darganfod pwy sy’n eu cynrychioli yn eu hardal, archwilio’r materion sydd bwysicaf iddynt neu gael effaith gadarnhaol yn eu cymuned, mae llawer o ffyrdd y gall pobl ifanc ddod yn wybodus a chymryd rhan.
Nod Wythnos Croeso i dy Bleidlais yw rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen ar bobl ifanc i fwrw eu pleidlais a dysgu am ffyrdd eraill o gymryd rhan mewn democratiaeth. Mae’n gyfle gwych i athrawon ac addysgwyr ddechrau’r sgwrs gyda phobl ifanc.
Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu gyda grŵp ieuenctid, cofrestrwch i gymryd rhan yn nigwyddiad 2025 a byddwch yn derbyn adnoddau am ddim cyn yr wythnos i’ch helpu i gymryd rhan.
Mae mwy o wybodaeth am Wythnos Croeso i dy Bleidlais ar gael yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.