Mae Partneriaeth Coedwigaeth Wrecsam yn dathlu ail Wythnos Cysylltiadau Coetir o 15 Mehefin i 21 Mehefin a’r thema eleni yw ‘Chwilio am Loches’. Mae coed a choetir yn lloches i bobl a bywyd gwyllt ac yn darparu pob math o fanteision i iechyd, lles, bioamrywiaeth ac effeithiau newid hinsawdd.
Rydym yn falch iawn o rannu ein map coed ‘Lloches’; gan wahodd pobl i ddarganfod coed ar garreg ei drws ac wedi amlygu’r coed yng nghyffiniau Wrecsam sy’n werth ymweld â nhw. Darllenwch trwy’r disgrifiadau ar gyfer pob coeden, a chamu allan i’r awyr agored i’w hymweld.
Os oes yna unrhyw goed neu goetiroedd yn Wrecsam a ddylai cael eu cydnabod fel ‘Lloches’ anfonwch nhw atom ni gyda llun, a manylion am y lleoliad a pharagraff byr yn egluro pam fod y goeden yn haeddu sylw.
Gwyliwch allan am ddigwyddiadau, sgyrsiau a gweithgareddau yn ystod Wythnos Cysylltiadau Coetir wrth i ni arddangos sut y mae coed a choetiroedd yn lloches i bobl a bywyd gwyllt.
Dewch o hyd i’r Goeden Noddfa agosaf atoch chi isod
Coeden Ywen Eglwys y Santes Fair Forwyn, Stryd Fawr, Owrtyn Wrecsam LL130FA ///airtime.elder.culminate
Mae’r coed ywen o amgylch Eglwys y Santes Fair Forwyn wedi’u nodi fel un o ‘Saith Rhyfeddod Cymru’.
Amcangyfrifir fod yr Ywen hynaf (gweler y llun) rhwng 1500-2000 oed. Ar hyn o bryd mae ffens amddiffynnol o gwmpas y goeden sydd gydag ategolion i’w chadw ar ei thraed ac i ddiogelu’r goeden ryfeddol hon. Yn draddodiadol mae coed ywen yn gysylltiedig â bywyd tragwyddol ac atgyfodiad ac oherwydd hynny maen nhw i’w gweld yn aml mewn mynwentydd eglwysi yng Nghymru.
Wrth grwydro trwy dir atmosfferig yr Eglwys byddwch yn teimlo fel eich bod yn cael eich cludo yn ôl i’r cyfnod canoloesol gyda’r coed Ywen yn cynnig y cysylltiad hanesyddol hwn â’r gorffennol. Wrth i chi gerdded ar hyd tir yr eglwys meddyliwch am y cenedlaethau o bobl sydd wedi cerdded yr un llwybr ac o bosib wedi darganfod lloches ymysg y coed hyn.
Derwen Ddigoes Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant, Ffordd Rhos y Bers, Coedpoeth
Wrecsam, LL11 3BT ///moving.pleasing.clockwork
Dyma un o’r Coed Nodedig wedi’u cofrestru ar ein Rhestr o Goed Hynafol.
Gan fod y goeden dderw hon yn tyfu ar hyd Clawdd Offa, sef rhagfur a adeiladwyd rhwng Cymru a Lloegr yn 785 OG, rydym wedi cofnodi’r goeden hon fel un nodedig.
Fel arfer mae coed nodedig yn goed aeddfed sy’n sefyll allan yn yr amgylchedd lleol am eu bod nhw’n fawr i’w cymharu â choed eraill o’u cwmpas nhw. Dyma’r genhedlaeth nesaf o goed hynod.
Mae yna 326 rhywogaeth o fywyd gwyllt sy’n galw’r dderwen hon yn lloches a chartref. Gwiwerod, sgrech y coed a moch daear yn caru’r mes ac mae’r lindys yn dod i fwyta’r dail sydd yn eu tro yn atynnu delor y cnau, cnocellod y coed gwyrdd a dringwyr bach.
Castanwydden Bêr Ffordd Jeffreys, Wrecsam, LL127PE ///name.prices.neat
Yng nghalon Parc Acton fe gafodd coeden Castanwydden Bêr Wrecsam ei choroni yn Goeden y Flwyddyn ar draws y DU yn 2023. Mae’r Gastanwydden Bêr tua 484 o flynyddoedd oed sy’n golygu fe ddechreuodd dyfu yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed!
Credir fod coed Castanwydden Bêr wedi cael eu cludo i’r DU gan y Rhufeiniad fel adnodd bwyd. Yn aml iawn maen nhw’n cael eu rhostio yn ystod misoedd y Gaeaf.
Mae’r goeden yn cynnig cysgod rhag heulwen a glaw gyda’i chanopi anferth. Mae canopi anferth y goeden Gastanwydden Bêr hon yn ymestyn 24 metr. Camwch o dan ganopi’r goeden anhygoel hon a theimlwch eich hun yn cael eich cludo i’r byd naturiol. Edrychwch allan am yr adar fel cnocellod y coed a dringwyr bach yn dringo’r boncyff a gwiwerod yn brysio ar hyd y canghennau.
Castanwydden y Meirch Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, Wrecsam, LL11 4AG /// resolves.gurgled.clutter
Yn swatio’n nwfn ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alyn mae Castanwydden y meirch trawiadol sy’n cofleidio aber yr Afon Alyn. Yn ymyl llecyn sy’n boblogaidd ymysg ymwelwyr ar gyfer padlo, mae’r Afon Alyn wedi erydu’r pridd yn araf bach o amgylch y goeden hon gan ddatgelu rhwydwaith sylweddol o wreiddiau; gan arddangos pa mor eithriadol yw coed o dan y ddaear yn ogystal â’r hyn a welwn uwchben y ddaear.
Mae coed fel Castanwydden y meirch yn anfon allan systemau cymhleth o wreiddiau sy’n helpu i’w sefydlogi nhw yn erbyn amodau tywydd garw yn ogystal â’u cefnogi nhw i gasglu dŵr a maeth o’r pridd. Yn ddiweddar maen nhw wedi darganfod bod coed yn gallu “siarad” trwy eu gwreiddiau gan anfon negeseuon cemegol i’w gilydd os oes yna fygythiad fel plâu neu afiechyd. Hefyd maen nhw wedi darganfod bod coed aeddfed yn anfon maeth a dŵr i goed ifanc cyfagos i gefnogi eu datblygiad a hefyd yn cefnogi coed wedi’u difrodi mewn ffordd debyg.
Cymrwch seibiant drwy eistedd yn ymyl y goeden neu gerdded ar hyd glan yr afon. Gwyliwch allan am fflach o las y dorlan yn plymio i mewn ac allan o’r dŵr a throchwyr yn dowcio ymysg y creigiau yn yr afon.
Helygen ddeilgron, Gardd Gaerog Fictoraidd Erlas Ffordd Bryn Estyn, Wrecsam, LL139TY ///preheated.editor.tested
Mae’r Helygen ddeilgron i’w chael ar dir Gardd Gaerog Fictoraidd Erlas ac mae hi rhwng 250 a 300 oed.
Mae coed hynod fel hyn yn lloches yn hanfod ei hun, gan ddarparu cartref i amrywiaeth o ffyngau, rhedyn a chen yn ogystal â thyllau i infertebratau a gwacter ar gyfer adar sy’n nythu.
Mae dail yr Helygen ddeilgron yn cael eu bwyta gan lindys sawl gwyfyn, yn cynnwys gwyfyn cathan, cliradain yr helyg, cliradain dywyll a chliradain wenwynaidd. Dyma hefyd brif fwyd ar gyfer glöyn byw ymerawdwr y deri.
Yn ddiweddar mae’r goeden wedi derbyn ychydig o waith arni yn dilyn cyngor gan Reolwr Coedyddiaeth Cyngor Wrecsam a’r Ymgynghorydd Coedyddiaeth sydd wedi galluogi’r Helygen ddeilgron i oroesi gaeaf arall ac mae hi ar hyn o bryd yn ffynnu, ac mae’n bosib gweld hynny gyda’r tyfiant newydd.
Ffawydden Goprog Ffordd Rhiwabon, Wrecsam LL137RE ///sized.shepherdess.wager
Mae pâr o Ffawydd Coprog ym Mynwent Wrecsam yn llawn lliw dramatig ac yn gwrthgyferbynnu â’r dirwedd. Mae’r dail porffor-coch i’w gweld yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r Fynwent ac wrth i chi fynd am dro ar hyd y llwybrau heddychlon, tawel o fewn yr amgylchedd trefol sydd o gwmpas y fynwent, lle byddwch yn siŵr o ymlacio a llonyddu. Yn ddiddorol iawn mae Clawdd Wat sy’n heneb gofrestredig yn croesi’r Fynwent ac yn dilyn llinell un o’r llwybrau mewnol.
Mae’r Ffawydd Coprog yn ymddangos fel amrywiolion naturiol o’r Ffawydden Gyffredin mewn rhannau amrywiol o Ewrop, mor gynnar â’r 15fed ganrif ac wedi dod yn ffefryn mewn parciau a gerddi trefol.
Mae mynwentydd yn llefydd tawel a digynnwrf ac yn lloches i bobl adlewyrchu a chofio; maen nhw hefyd yn hafan i fywyd gwyllt lleol lle mae bywyd gwyllt trefol yn eu galw’n gartref.
Coedwig Llwyneinion Ffordd Llwyneinion, Rhostyllen, Wrecsam ///mailers.acted.fancied
Mae Coedwig Llwyneinion wedi ei dosbarthu fel coedwig hynafol. Mae coedwigoedd hynafol yn ardaloedd o goedwigoedd sydd wedi parhau i fodoli ers y 1600au. Dyma pryd dechreuodd mapiau fod yn weddol gywir ac felly fe allwn ddweud fod yna orchudd o goed wedi bod yn yr ardaloedd hyn ers cannoedd o flynyddoedd. Maent yn gyffredinol yn goedwigoedd na tharfwyd arnynt gan ddatblygiad dynol, ond yn anffodus ni allwn ddweud hynny am goedwig Llwyneinion.
Mae ein Derwen tua 300 mlwydd oed, felly rhywbryd yn y 1700au roedd yn goeden ifanc. Mae Coedwig Llwyneinion ac felly ein Derwen wedi gweld cloddio am fwyn haearn yn y 1700au, cloddio am glai a siâl yn ystod yr 1800au, yn ogystal â chloddio am lo yn ystod y 1900au.
Yn ddiweddar iawn rydym wedi darganfod tystiolaeth o lein reilffordd lle defnyddid ceffylau i dynnu cerbydau a fyddai wedi pasio o fewn metrau i’r Dderwen yn cludo mwyn haearn, clai a siâl o’r goedwig. Dychwelodd heddwch a llonyddwch uwchben y ddaear o leiaf yn ystod y 1900au ac fe ffynnodd y Dderwen. Yr unig aflonyddwch fu ychydig o drigolion lleol yn cerdded yn hamddenol drwy’r goedwig.
Yn anffodus daethpwyd o hyd i’r goedwig yn 2019 a chafodd ei throi’n faes chwarae i gerbydau 4×4. Dioddefodd y goedwig ddifrod enbyd a daeth y Dderwen yn gylchfan gyda’i boncyff yn cael ei ddefnyddio ar gyfer codi cerbydau allan o’r mwd.
Mae’r Dderwen nawr yn sefyll yn dawel eto, wedi ei hamgylchynu gan goed ifanc a chân yr adar unwaith eto. Mae’r goeden hon wedi gweld cymaint ac mae’n wir ddisgrifiad o Hen Goeden: hen goeden yw un sydd wedi datblygu rhai o’r nodweddion a welir mor aml mewn coed hynafol fel ceudodau, pren marw a rhisgl yn plicio. Ond mae’n bosibl, fodd bynnag, nad ydynt mor hen â hynny ond eu bod wedi cael bywyd caled ac wedi dioddef difrod o stormydd neu anafiadau a wnaed gan ddyn.
Felly dewch, gan ddod â diod gyda chi, eisteddwch a gorffwyswch am ychydig wrth ein Derwen a mwynhewch.
Fawnog Fach, Coed y Cadno, Bersham, Wrecsam, Wrexham, LL14 4JF /// Possibly, tidy, crumples
Mae’r goedwig fach hyfryd hon yn eiddo i Gyngor Cymuned Offa. Mae’n cynnwys coed cynhenid ac ardaloedd o laswelltir ac mae wedi ei hamgylchynu ar un ochr gan Afon Clywedog. Mae rhywogaethau’r coed sy’n bresennol yn cynnwys y dderwen, onnen, aethnen, collen, y gelynnen, ffawydden a’r goeden gastan a nifer o amrywiaethau o blanhigion blodeuog sy’n amrywio drwy gydol y tymor.
Mae’n hafan o lonyddwch sy’n hawdd iawn i’w chyrraedd oddi ar Ffordd y Bers ger Canol Dinas Wrecsam. Mae’n ardal weddol wastad ac mae yma lwybrau troed sy’n ffurfio rhan o Lwybr Clywedog yn ogystal â chysylltu â’r Bers, Rhostyllen, Felin Puleston ac Erddig.
Derwen Pontfadog Castell y Waun, Yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol///museum.winters.strictest
Mae Derwen Pontfadog yn ei hôl!
Amcangyfrifir bod Derwen Pontfadog wedi bod yn sefyll am 1,200 i 1,700 o flynyddoedd ar fferm Cilcochwyn ger y Waun tan iddi syrthio mewn storm yn 2013. Mae glasbren sydd wedi ei impio o Dderwen Pontfadog yn 2013 gan Ystad y Goron bellach wedi ei blannu yn nhir Castell y Waun, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a bydd hyn, gobeithio, yn diogelu’r goeden arbennig hon am 1,000 o flynyddoedd eto.
Mae cymryd toriadau o goed hynafol a’u tyfu yn ein cynorthwyo i ddiogelu llinach coed sydd wedi sydd wedi sefyll prawf amser. Mae’n bosibl bod gan y coed hyn rhyw gadernid yn erbyn plâu a chlefydau y gellir ei astudio i’n helpu i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, mae gan goed hynafol dreftadaeth sy’n dyddio’n ôl lawer o flynyddoedd, a bydd defnyddio hyn o gymorth i ni gynnal cynefinoedd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid prin sy’n gallu dibynnu ar rywogaethau penodol o goed i oroesi.
Cochwydden Fawr / Welingtonia Erddig Yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ///expansion.share.impulse
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi enwebu’r Cochwydd Mawrion / Welingtonia sydd wedi eu plannu ar hyd rhai o’r lonydd sy’n mynd drwy Ystad Erddig, a phan edrychwch arnyn nhw’n agos, fe welwch pam. Cafodd y coed hyn, sy’n dod yn wreiddiol o America, eu cyflwyno gyntaf ym Mhrydain yng nghanol y 19eg ganrif. Yn fawr eu parch am eu huchder a’u cwmpas, yn fuan wedyn dechreuwyd defnyddio’r coed hyn i addurno ystadau gwledig, a gallwn eu gweld hyd heddiw. Mae Cochwydd Mawrion / Welingtonia’n gallu tyfu i fod yn wrthrychau byw mwyaf y byd – gallant gyrraedd uchder o 100 metr.
Cerddwch ymysg y cewri, a rhyfeddu at faint y rhyfeddodau naturiol anferth hyn. Mae’r Cochwydd Mawrion / Welingtonia yn Erddig yn ffefryn gan wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac aelodau o’r cyhoedd, fel yr oeddynt i’r Fictoriaid a gyflwynodd hwy gyntaf.