Mae Wythnos Gofalwyr (10-16 Mehefin) yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, i amlygu’r heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ar draws y DU.
Mae hefyd yn helpu pobl nad ydynt yn ystyried bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu i ystyried eu hunain yn ofalwyr ac i gael gafael ar gefnogaeth sydd wirioneddol ei hangen arnynt.
Mae’r ymgyrch yn dod yn fyw gyda miloedd o unigolion a sefydliadau sy’n dod ynghyd i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr, cynnal gweithgareddau, amlygu’r rôl hanfodol mae gofalwyr yn ei chwarae yn ein cymunedau a thynnu sylw at ba mor bwysig yw gofalu.
Gofalwr yw unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddyliol neu gorfforol, dibyniaeth, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddynt heneiddio. Mae effaith gofalu ar bob agwedd o fywyd o berthnasoedd ac iechyd i arian a gwaith yn gallu bod yn sylweddol.
Tra bod llawer yn teimlo mai gofalu yw un o’r pethau mwyaf pwysig maent yn ei wneud, ni ddylid diystyru ei heriau. Gall gofalu heb y wybodaeth a chefnogaeth gywir fod yn anodd.
Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan ofalwyr i’w teuluoedd a chymunedau lleol, gweithleoedd a’r gymdeithas a’u bod yn derbyn y gefnogaeth maent ei hangen.
Mae angen cydnabod gofalwyr am yr anawsterau a brofir ganddynt, parchu popeth maent yn ei wneud, darparu gwybodaeth iddynt a rhoi’r wybodaeth maent ei hangen i ofalu’n ddiogel.
Yn Wrecsam, mae NEWCIS yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i’n hoedolion sy’n ofalwyr di-dâl ac mae Gofalwyr Ifanc WCD yn darparu cefnogaeth i’n gofalwyr iau hyd at 18 oed.
Sesiwn galw heibio
Os ydych yn ofalwr di-dâl ac yr hoffech wybod mwy, gallwch alw heibio Canolfan Adnoddau Acton ddydd Mercher, 12 Mehefin ble byddwn yn darparu sesiwn galw heibio gyda GOGDdC rhwng 10.30am – 1.30pm.