Erthygl wadd – Groundwork Gogledd Cymru
Beth yw Wythnos Mynd Ar-lein?
Dyma un o ymgyrchoedd cynhwysiant digidol mwyaf ac sydd wedi rhedeg hiraf yn y DU, a gynhelir gan Good Things Foundation. Eleni, mae’n cael ei gynnal o ddydd Llun 14 i ddydd Sul 20 Hydref, 2024.
Eisiau gwybod beth yw cynhwysiant digidol?
Yn syml, mae’n sôn am sicrhau bod buddion y rhyngrwyd a thechnolegau digidol ar gael i bawb.
Os ydych chi’n darllen yr erthygl hon, yna mae’n debygol eich bod yn eithaf hyderus yn defnyddio technoleg, ac nid ydych yn aml yn meddwl am ba mor hawdd y cewch fynediad i, a darllen gwybodaeth ar-lein.
Mae rhai gwahanol resymau pam y gall rhywun fod wedi’u heithrio’n ddigidol – ac nid yw’n golygu pobl nad ydynt yn mynd ar-lein o gwbl.
Mae’r prif resymau dros rywun yn colli allan yn cynnwys:
Cysylltedd
Mae angen cysylltiad i’r rhyngrwyd a dyfais ddigidol (megis gliniadur neu ffôn clyfar) er mwyn mynd ar-lein yn y lle cyntaf. Nid yw’r rhain yn bethau y gall pawb eu fforddio, neu gael mynediad atynt oherwydd eu lleoliad.
Hygyrchedd
Mae angen i wasanaethau gael eu dylunio i ddiwallu holl anghenion defnyddiwr, gan gynnwys y sawl sy’n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol i gael mynediad at wasanaethau digidol (er enghraifft, efallai bod rhai pobl yn defnyddio meddalwedd darllen sgrin i ddarllen gwybodaeth ar dudalen we).
Mae angen i wasanaethau gael eu gosod yn gywir fel bod y technolegau hyn yn gweithio’n effeithiol.
Sgiliau digidol
Yn ôl Good Things Foundation, mae 8.5 miliwn o bobl yn y DU heddiw sydd â diffyg sgiliau digidol er mwyn defnyddio technoleg a’r rhyngrwyd.
Efallai y bydd eraill ar-lein, ond eu bod yn ddefnyddwyr ‘cyfyngedig’ o’r rhyngrwyd. Heb gefnogaeth, mae pobl yn cael eu gadael ar ôl mewn byd sy’n gynyddol ddigidol.
Beth yw’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Wrecsam ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein?
Mae dau ddigwyddiad am ddim wedi’u trefnu, sydd â’r nod o helpu pobl gyda’u sgiliau digidol.
Bydd y digwyddiadau llawn gwybodaeth a hwylus hyn yn darparu cyngor a gweithgareddau digidol ar gyfer y sawl sy’n rhy nerfus neu heb ddigon o hyder yn defnyddio technoleg.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Disgo Digidol (edrych ar apiau megis Spotify – sut i greu cyfrif a rhestrau chwarae)
- Cwis Ditectif Digidol (ymchwilio i wahanol bynciau gan ddefnyddio peiriannau chwilio)
- Deallusrwydd Artiffisial yn erbyn Y Gwir (edrych ar ddelweddau a gweld pa un sy’n wir a pha un a grëwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial)
Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal yn:
- Y Canolbwynt Lles (31 Stryt Caer, LL13 8BG) o 10am i 12pm ar 15 Hydref
- Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt (Ail Rodfa, LL11 4ED) o 1pm i 3pm ar 15 Hydref
Darperir y ddwy sesiwn gan yr elusen Groundwork Gogledd Cymru.
Dywedodd Louise Stokes, Pennaeth Hyfforddiant “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Ewch Ar-lein 2024. Mae sgiliau digidol yn allweddol yn ein byd heddiw, boed hynny er mwyn gallu defnyddio gwasanaethau hanfodol, gwneud cais am swyddi, neu gadw mewn cysylltiad â’r teulu. Trwy weithio gyda Good Things Foundation, rydym yn gobeithio y gallwn helpu hyd yn oed mwy o bobl i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol.”
Lledaenwch y neges
Os ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n elwa o’r sesiynau hyn, rhowch wybod iddynt!
Neu os ydych chi’n gallu defnyddio dyfeisiau digidol ond eisiau dysgu rhagor a magu hyder yn eu defnyddio, yna galwch heibio!
Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n byw yn rhywle arall yn y DU a fyddai’n elwa o gefnogaeth ddigidol, gallwch wirio map digwyddiadau Good Things Foundation i weld os oes digwyddiad sy’n agos at eu hardal.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gŵyl Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Marics Hightown – Hydref 12