Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen XGas yn dathlu 20 mlynedd o fusnes yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > XGas yn dathlu 20 mlynedd o fusnes yn Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lle

XGas yn dathlu 20 mlynedd o fusnes yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2023 5:36 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
XGas in Wrexham
RHANNU

Mae XGas sy’n gwmni nwy, olew, plymio a gwresogi yn Rhostyllen, yn dathlu 20 mlynedd o fusnes eleni. Maent yn Bartner Gwasanaeth Worcester Bosch ac yn ddiweddar aeth ein Haelod Arweiniol yr Amgylchedd ac Adfywio, y Cyng. Nigel Williams i ymweld â nhw i ddarganfod beth oedd wedi’u gwneud mor llwyddiannus.

Dechreuodd y Cyfarwyddwyr Paul Jones ac Alan Taylor y busnes yn 2003 ac maent wedi ehangu eu cwmni a’r gweithlu’n llwyddiannus dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wrth iddynt adeiladu sail cwsmeriaid mawr a ffyddlon yn Wrecsam, Caer a’r ardaloedd amgylchynol.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Yn ystod ei ymweliad, siaradodd Nigel â Paul ynghyd â’r Rheolwr Gweithrediadau Kerry Powell a’r Rheolwr Cyfrifeg Joanne Taylor, a dywedasant “Rydym yn hynod o falch o’r ffordd mae’r cwmni wedi tyfu o Paul ac Alan pan ddechreuodd yn 2003 i’n tîm presennol o 22 o weithwyr. O’r dechrau roeddem yn benderfynol i gynnig y lefel uchaf o wasanaeth a gofal i’n cwsmeriaid a thrwy waith caled ein tîm anhygoel yma yn XGas, rydym wedi dod yn osodwyr mwyaf boeleri Worcester Bosch yn yr ardal.

Rydym yn cyflawni atgyweiriadau o dan warant a hefyd yn cynnig contractau gwasanaeth i’n cwsmeriaid ar gyfer heddwch meddwl. Gallwn gynnig cynlluniau talu hyblyg, felly os fydd boeler cwsmer yn torri’n annisgwyl, gallent gael boeler newydd sbon wedi’i osod gyda hyd at 12 mlynedd o warant am gost fisol fforddiadwy”

Mar gan XGas raglen prentisiaeth barhaus gan gynnig cyfle i bobl leol gael cymwysterau NVQ drwy hyfforddiant yn y swydd gyda’u peirianwyr a mynychu Coleg Cambria.

Maent hefyd yn cefnogi’r gymuned leol ac yn noddi CPD Rhostyllen ac amryw o ddigwyddiadau yn yr ardal.

Mae ganddynt sgôr 5 seren ar Trustpilot ac maent yn Fasnachwr Dibynadwy Which?

Mae XGas yn edrych i ddyfodol mwy gwyrdd felly pan fydd yr amser yn dod i amnewid eich boeler, maent yn hyderus fod ganddynt y datrysiad perffaith ar gyfer eich cartref.

Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, aelod Arweiniol yr Amgylchedd ac Adfywio, “Mae ganddynt dîm o staff hynod o ymroddgar ac yn ehangu eu gweithlu’n barhaus. Mae eu gwasanaeth i gwsmeriaid o’r radd flaenaf felly does dim syndod bod ganddynt enw da ymysg eu cwsmeriaid.”

“Mae gan Wrecsam gyfoeth o gwmnïau sy’n cynnig ansawdd a gwasanaeth ac nid yw XGas yn eithriad. Dymunaf pob llwyddiant iddynt ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf o fasnachu yma yn Wrecsam.”

Ychwanegodd Paul, “Hoffai Alan a minnau, a’r holl dîm yn XGas ddiolch yn fawr i’n holl gwsmeriaid sydd wedi ein cefnogi ni dros yr 20 mlynedd ddiwethaf a gobeithiwn yn fawr y gallwn barhau i’ch gwasanaethu am nifer o flynyddoedd i ddod”.

Er mwyn darganfod sut all XGas eich helpu chi i osod boeler newydd, gwasanaethu neu atgyweirio eich cyfarpar presennol neu gyflawni gwaith atgyweirio plymio yn eich eiddo, ewch i’w gwefan.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dementia Wrexham Dangos ffilm i annog sgyrsiau gwell am ddementia
Erthygl nesaf Hidden treasure Dewch â’ch trysor cudd i Gymhorthfa Darganfyddiadau Amgueddfa Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English