Erthygl Gwadd – Glandŵr Cymru
Dydd Sadwrn 4ydd Mai 11am – 2pm – Capel Ebeneser, Cefn Mawr
https://www.facebook.com/events/1097197861570734
Dydd Llun 6ed Mai 11am – 2pm Canolfan Ymwelwyr Dyfrbont Pontcysyllte a Basin Trefor, Basin Trefor
https://www.facebook.com/events/477161341535364
O Gefn Mawr i’r Waun y gwanwyn hwn, ymunwch â Glandŵr Cymru wrth i ni archwilio a darganfod beth sy’n gwneud y cymunedau ac amgylcheddau cyfagos Safle Treftadaeth y Byd yn Wrecsam mor unigryw.
Sut daeth y lle hwn i fodolaeth? Beth sydd wedi siapio eich hanes a’ch hunaniaeth?
Oes gennych chi unrhyw bethau cofiadwy, arteffactau (gwisgoedd, bathodynnau adnabod, offer, albwm lluniau) neu straeon i’w rhannu am hanes diwydiannol yr ardal? Rydym eisiau clywed am hanes y dywodfaen, am y navvies Gwyddelig ac am Monsanto yn fwy diweddar – dewch draw i’n helpu i greu stori eich cymuned, rhwng 1805 a 2024.
Bydd y digwyddiadau cymunedol hyn at ddant y teulu cyfan. Bydd llu o weithgareddau gwahanol yn cael eu rhedeg gan artistiaid, curaduron a ffotograffydd mewn partneriaeth gyda Tŷ Pawb ac Xplore.
Cymerwch ran ar y diwrnod trwy:
- Ddod â lluniau, neu albymau y gallwn eu sganio, pethau cofiadwy, arteffactau a straeon eich teulu
- Edrych a meddwl am eich cymuned a’ch cysylltiad â’r dyfrffyrdd trwy lens camera mewn gweithdy aml-leoliad Ffotograffiaeth gyda’r ffotograffydd dogfennol Oliver Stephen a fydd
- yn dysgu sgiliau arbennig i chi ar y diwrnod.
- Creu map Cymunedol gyda Sophia Leadill
- Adeiladu eich camlas gymunedol gydag Xplore!
- Curadu eich arddangosfa eich hun gyda The Dispensary Gallery a Tŷ Pawb
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau ewch i @TheStreaminthesky ar Facebook neu Instagram, neu e-bostiwch Natasha Borton ar Natasha.Borton@canalrivertrust.org.uk
Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd yw Y Bont sy’n Cysylltu a chaiff ei redeg gan Glandŵr Cymru. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.