Postiwyd ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.
Os ydych chi’n darllen y newyddion neu’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n siŵr eich bod wedi clywed am ‘Spice’ neu Mamba.
Mae’n debyg eich bod chi hefyd yn gwybod bod Wrecsam – fel nifer o drefi a dinasoedd eraill Prydain – yn brwydro yn erbyn effeithiau’r cyffur peryglus hwn.
Ond beth yn union ydi o a pham ei fod yn aml yn gryfach – ac yn fwy peryglus i ddelio ag o – na chyffuriau eraill?
Dyma atebion i rai cwestiynau sylfaenol…
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Beth mae pobl yn ei olygu pan maen nhw’n sôn am ‘Spice’ neu Mamba?
Ar y cychwyn, roedd ‘Spice’ a ‘Mamba yn enw brand ar gyfer cyffur a oedd yn cael ei werthu fel ‘cyffur cyfreithlon’ (cyn i’r gyfraith newid) – ynghyd â brandiau eraill fel ‘Happy Joker’.
Ond fe ddaeth yn llysenw ar gyfer bron bob dim sy’n cynnwys ‘canabinoids synthetig’.
Mae fel arfer ar ffurf cymysgedd o ddail ac o ganabinoids synthetig ac mae’n cael ei werthu mewn bagiau bach.
Canabinoids synthetig? Beth ydyn nhw?
Mae canabis yn dod o blanhigyn canabis.
Cyffuriau wedi’u gwneud â llaw dyn ydi canabinoids synthetig, yn y bôn, sy’n cael eu creu mewn labordai strydoedd cefn ac maent yn effeithio’r un rhannau o’r ymennydd â chanabis.
Fe gawsant eu datblygu gyntaf gan gemegwyr ymchwil yn y 1980au… ond ni chawsant erioed eu cynhyrchu ar raddfa fawr na’u profi’n glinigol ar bobl.
Felly pam mae ‘Spice’/ ‘Mamba’ mor gryf?
Nid yw’n gryf bob amser. Weithiau mae hi, a weithiau ddim. Gall pob bag fod yn wahanol.
Ond am fod pobl yn chwilio am bethau mwy pwerus o hyd, daeth fersiynau cryfach a gryfach i’r marchnad.
Mae cannoedd o fathau o ganabis synthetig ac mae’n gallu bod hyd at 800 gwaith yn gryfach na chanabis naturiol.
Ar ben hynny, mae fel arfer yn dod heb effeithiau tawelu’r cyffur naturiol.
A yw’n gyfreithlon?
Pan gyrhaeddodd gyntaf, roedd y gyfraith ar ei hôl hi… ac roedd pethau a oedd yn cynnwys canabinoids synthetig yn cael eu gwerthu mewn siopau.
Fe gawsant eu gwahardd, ond mewn ychydig ddiwrnodau daeth fersiynau newydd gyda chemegau ychydig yn wahanol – a oedd yn eu gwneud yn gyfreithlon.
Fodd bynnag, ers mis Ebrill 2016, mae wedi bod yn anghyfreithlon gwerthu neu greu pob canabinoid synthetig.
Ers mis Rhagfyr 2016, mae’r rhan fwyaf o fersiynau rydym yn gwybod amdanynt wedi’u nodi’n gyffuriau Dosbarth B – sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i unrhyw un fod â nhw yn eu meddiant.
Beth mae’n ei wneud i’ch corff?
Mae’r effaith i’w theimlo’n fuan ar ôl ei ysmygu ac mae fel arfer yn cyrraedd ei anterth yn ystod yr hanner awr gyntaf.
Mae’n gyffredin i ddefnyddwyr gael trafferth anadlu, teimlo’n chwil a llewygu. Mae ffitiau, trawiadau ar y galon, anafiadau i’r arennau a phroblemau â’r croen hefyd wedi’u gweld.
Er bod galwadau am ambiwlans a derbyniadau i ysbytai’n gyffredin, mae nifer y rhai sy’n marw’n eithaf prin.
Beth mae’n ei wneud i’ch meddwl?
Yn amlwg, nid yw’n beth da. Mae dychmygu a gweld pethau brawychus yn effaith gyffredin ac mae’r defnyddwyr yn teimlo eu bod mewn byd arall.
Gall defnyddwyr gyrraedd pwynt lle nad ydynt yn gwybod eu henw eu hunain neu nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn berson – disgrifiad cyffredin ohonynt yw eu bod fel ‘sombi’.
Gorbryder, iselder, dryswch, meddwl am gyflawni hunanladdiad, amnesia a siarad yn ddi-synnwyr – dyna rai o’r effeithiau sydd wedi’u gweld.
Rhai ffeithiau allweddol yn unig am ‘Spice’/ ‘Mamba’ yw’r rhain, ond maen nhw’n dangos pam mae’r cyffur mor niweidiol – a pham ei bod mor anodd delio ag o.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI