Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi am fod yn “Lle Diogel”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi am fod yn “Lle Diogel”
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi am fod yn “Lle Diogel”

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 13, 2018 4:35 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ydych chi am fod yn “Lle Diogel”
RHANNU

Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng nghanol y dref ac mae angen i fusnesau gymryd rhan i wneud yn siŵr bod gan pawb sy’n ymweld le diogel lle gallant fynd i deimlo’n ddiogel.

Cynnwys
  • “Lle diogel pan fydd angen”
  • “Awyddus i gymryd rhan”

Nid yw pob un ohonom yn gallu mynd o gwmpas ein bywyd o ddydd i ddydd gyda hyder, i rai, gall ymweld â chanol y dref fod yn dasg angenrheidiol ond anodd. Mae’n bosibl y byddant yn teimlo panig, straen, neu’n arbennig o ddiamddiffyn a phan fydd hyn yn digwydd, gall arwydd syml mewn ffenestr siop neu ddrws ddod â chysur a sicrwydd.

“Lle diogel pan fydd angen”

Mae menter “Lle Diogel” yn cael ei rhedeg gan SWS (Safonau Gwasanaethau Wrecsam) ac mae’n rhan o gynllun cenedlaethol. Mae’n rhoi sicrwydd i bobl o wybod bod ganddyn nhw, neu bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, le diogel i fynd pan fydd angen. Gall y lle diogel fod yn siop, tafarn, llyfrgell, adeilad cyngor neu unrhyw le sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd sticer yn nodi bod y lle yn “Lle Diogel” a bydd hefyd yn ymddangos yn y gronfa ddata genedlaethol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Bydd defnyddwyr wedi cofrestru a byddant yn cario “Cerdyn Lleoedd Diogel” gyda rhifau ffôn arno a dylent ei gario bob amser. Pan fyddant mewn “Lle Diogel”, bydd staff yn gallu defnyddio’r rhifau ffôn i ffonio aelod o’r teulu neu ffrind agos i ddod i roi cefnogaeth.

Mae’r holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan SWS ac ni fydd yn para mwy nag 20 munud.

“Awyddus i gymryd rhan”

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rwy’n cefnogi’r prosiect hwn yn llawn a bydd yn mynd gam ymhellach i wneud canol ein tref mor hygyrch ag sy’n bosibl i ymwelwyr. Rwy’n gwybod ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn ardaloedd eraill ac rwy’n siŵr y bydd busnesau Wrecsam yn awyddus i gymryd rhan a chofrestru i fod yn “Lle Diogel”.”

Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn lle diogel? Cysylltwch ar 01978 298475 a gofynnwch am Debbie neu Nicole neu anfonwch e-bost at debbie.jackson@wrexham.gov.uk neu nicole.mitchell-meredith@wrexham.gov.uk

Darllenwch ragor am SWS yma:

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/rhywun-eisiau-sws/

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council News A oes gennych ddiddordeb lle gall datblygu ddigwydd yn y dyfodol? Edrychwch ar hyn
Erthygl nesaf Newyddion da ar gyfer Llyfrgell Rhos Newyddion da ar gyfer Llyfrgell Rhos

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English