Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd eto?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych chi wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd eto?
Y cyngor

Ydych chi wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd eto?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 8, 2022 4:26 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Mae hi’n adeg honno o’r flwyddyn eto! Mae bellach modd i drigolion dalu am eu casgliadau gwastraff gardd ar gyfer Medi 2022 – Medi 2023.

Cynnwys
  • Talwch ar-lein ble’n bosibl
  • Sticeri newydd ar gyfer 2022/23
  • Dim taliadau arian parod na sieciau
  • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
  • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd cyn mis Medi i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd mwyaf cyflym a hawdd i dalu, ac rydych chi’n cael gwneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru erbyn mis Medi i osgoi colli unrhyw gasgliadau.

Mae’r gost ar gyfer 2022/23 yn aros yr un fath sef £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun, 5 Medi 2022 tan ddydd Gwener, 1 Medi 2023.

Ydych chi wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd eto?

Os ydych wedi talu ar gyfer casgliad gwastraff gardd y llynedd (2021/22), bydd eich bin(iau) gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu/eu casglu tan 2 Medi.

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y gwasanaeth tan fis Medi 2023. Bydd y £25 fesul bin gwyrdd yn cadw cost gwasanaeth Wrecsam yn un o’r rhai isaf yng Nghymru a Lloegr. Gall trigolion adnewyddu o ddydd Llun, 27 Mehefin, a bydd angen iddynt sicrhau eu bod wedi talu am wasanaeth 2022/23 erbyn mis Medi i osgoi colli unrhyw gasgliadau ar ôl i’r gwasanaeth cyfredol ddod i ben.”

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

Talwch ar-lein ble’n bosibl

Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny. Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn talu am y gwasanaeth ar-lein.

Sticeri newydd ar gyfer 2022/23

Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael pecyn sticer gyda sticer newydd, a ddylid ei arddangos ar gaead eich bin o fis Medi.

Gofynnwn i drigolion i BEIDIO â rhoi eu sticer newydd ar gaead eu bin nes fod y gwasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Dylech barhau i arddangos eich sticer 2021/22 nes fod y gwasanaeth yn dod i ben ar 2 Medi.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Yn y blynyddoedd diwethaf, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol lots of hands on top of each other in a circle Peidiwch â cholli eich cyfle! Grantiau ar gael i helpu grwpiau cymunedol yn Wrecsam
Erthygl nesaf Gwyn Evans Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English