Does dim ots pwy ydym ni nac o ble rydym ni’n dod, mae hi’n bwysig bod pawb yn cael dweud eu dweud yn ein democratiaeth.
Yng Nghymru, gall pawb dros 16 oed bleidleisio a bydd Wythnos Democratiaeth Leol (14-20 Hydref) yn canolbwyntio ar annog mwy o bobl i gymryd rhan yn ein democratiaeth.
Mae cymryd rhan mewn democratiaeth yn golygu defnyddio eich pleidlais, ond er mwyn gallu gwneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru.
Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd Cyngor Wrecsam yn cynnal y cynfas blynyddol ac mae hi’n amser da i sicrhau eich bod wedi cofrestru ac yn gallu pleidleisio pan fydd etholiad yn cael ei gynnal, yn cynnwys Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau 2 Mai 2023 a’r Etholiad Cyffredinol a fydd yn cael ei gynnal unrhyw adeg cyn mis Ionawr 2025.
Mae’r cynfas blynyddol yn golygu dros yr wythnosau diwethaf fe ddylech fod wedi cael llythyr neu e-bost oddi wrthym yn gofyn ichi gadarnhau eich manylion. Peidiwch â’i anwybyddu! Trwy lenwi’r ffurflen hon, mae’n golygu y byddwch chi’n barod i bleidleisio pan ddaw hi’n amser etholiadau.
Er mwyn helpu’r Cyngor i arbed arian yn ystod camau olaf y cynfas, rydym ni’n gofyn i chi lenwi’r ffurflen erbyn 13 Hydref. Mae gwneud hyn yn golygu y bydd gennym y wybodaeth gywir ar gyfer eich aelwyd ac ni fydd angen i ni gysylltu gyda chi eto. Os nad ydym wedi derbyn eich ymateb erbyn 13 Hydref, fe fydd canfaswyr yn ymweld ag aelwydydd sydd heb ymateb er mwyn sicrhau bod eich manylion yn gywir a byddant yn gallu eich helpu i lenwi’r ffurflen os byddwch chi angen iddynt wneud hynny.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.