Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach yn rhybuddio pobl i dalu sylw manwl at unrhyw negeseuon e-bost y maent wedi’u derbyn yn dweud eu bod wedi methu parsel a ddanfonwyd – mae hwn yn gynllun twyll cyfarwydd sy’n dod yn fwyfwy cyffredin wrth i ni gyd archebu mwy o nwyddau ar-lein.
Hyd yn oed os ydych yn disgwyl parsel, talwch sylw manwl at yr e-bost. Gan amlaf bydd yn gofyn i chi dalu ffi fach am aildrefnu bod y parsel yn cael ei ddanfon atoch – bydd y twyllwyr wedyn yn cael mynediad at eich manylion banc ac mae’n debyg y byddwch yn colli llawer mwy na’r ffi ddanfon!
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Cyngor Safonau Masnach yw:
Os ydych yn cael neges yn gofyn am arian neu wybodaeth bersonol neu ariannol am y parsel, mae’n debyg mai neges dwyllodrus ydy hi. Anfonwch yr e-bost at SERS sef gwasanaeth i roi gwybod am negeseuon e-bost amheus i’r cyfeiriad e-bost: report@phishing.gov.uk
Gwiriwch y cyfeiriad yn y blwch ‘from’ – a yw’n dod gan gwmni neu sefydliad, neu gyfeiriad e-bost digyswllt? Gwiriwch eu gwefan bob tro.
Edrychwch yn fanwl ar yr e-bost – a oes gwallau sillafu neu wallau gramadegol? Mae dulliau’r twyllwyr o wneud i’w negeseuon ymddangos yn fwy proffesiynol yn gwella o hyd.
Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506.
CANFOD Y FFEITHIAU