Wyddoch chi fod gennym ni 850 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus yma yn Wrecsam? Os ydych yn eu defnyddio’n rheolaidd mae’n bosib y bydd gennych rywbeth i’w ddweud am ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd.
Mae’r Cynllun hwn yn nodi’n glir beth sy’n bwysig i ni ei wneud a sut gallwn barhau i gynnal a buddsoddi ynddynt o ystyried y pwysau ariannol cyfredol sy’n wynebu pob awdurdod lleol ar hyn o bryd.
Rydym yn gofyn am eich barn ar y Cynllun a byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech gymryd peth amser i gael golwg sydyn arno ac i anfon sylwadau i ni ar e-bost.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Mae’r Cynllun ar gael yma
Ers i ni gyhoeddi ein Cynllun am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2017, gwnaed gwelliannau sylweddol yn hygyrchedd y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus. Mewn arolygon, mae rhwyddineb defnyddio llwybrau wedi gwella o 39% yn 2007 i 77% yn 2016 o ganlyniad i fuddsoddiad parhaus mewn camfeydd, giatiau, pontydd a chyfeirbyst gan ddefnyddio cymorth grant gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwaith wedi ei wneud ar 1726 hyd o lwybrau, cafodd 177 o bontydd eu trwsio, gosodwyd 713 giât mochyn newydd, cafodd 528 o gamfeydd eu gosod neu eu trwsio ac mae 1053 o gyfeirbyst bellach yn eu lle sy’n nodi hawliau tramwy.
Mae’r cynllun newydd yn ceisio gweithio’n agos gyda Chynghorau Cymuned ac annog mwy o bobl leol i gymryd rhan yn y broses o wella hawliau tramwy.
Ei flaenoriaeth fydd parhau i wella’r system hawliau tramwy bresennol cyn bod ychwanegiadau sylweddol yn cael eu gwneud i’r rhwydwaith.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym oll yn defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus ac maent yn hanfodol er mwyn cysylltu ein cymunedau â chefn gwlad.”
“Rydym yn blaenoriaethu ein gwaith o gynnal y rhwydwaith gyfredol a sicrhau bod ein llwybrau’n hygyrch ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau symudedd. Bydd hyn yn her gyda llai o gyllid nag arfer ond mae’r swyddogion a minnau wedi ymrwymo i gynnal a gwella’r hawliau tramwy cyhoeddus presennol i bawb eu defnyddio.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB