Ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl gadael yr ysgol eleni?
Oedd gennych chi gynllun ar gyfer gadael yr ysgol? Teimlo fel bod y pandemig wedi amharu arnoch chi?
Rydym yn gwybod fod y pandemig wedi amharu ar addysg, ond rydym eisiau i chi wybod bod yna dal gymaint o gyfleoedd yn aros amdanoch ar ddiwedd blwyddyn 11 – pa un a ydych yn dymuno mynd ymlaen i’r chweched dosbarth, hyfforddiant, coleg neu gyflogaeth.
Edrychwch ar y fideo hwn i wybod mwy am y nifer o ddewisiadau sydd gennych yn Wrecsam:
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
http://https://youtu.be/T8P6GDAnVCI
Dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth Atal a Chymorth: “Ar ddechrau’r pandemig, roeddem yn bryderus iawn y byddai pobl ifanc Wrecsam yn gynyddol bryderus am eu dyfodol oherwydd popeth maent yn ei brofi, yn arbennig gyda’r amhariad ar eu haddysg. Roeddem eisiau iddynt wybod er gwaethaf popeth, mae yna dal lawer o gyfleoedd ar ddiwedd Blwyddyn 11 boed hynny yn chweched dosbarth, coleg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Dywedodd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaeth Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Yn Wrecsam, rydym yn ffodus iawn i gael ystod o sefydliadau sy’n gallu cefnogi pobl ifanc gyda’u camau nesaf ac mae’r fideo hwn yn atgoffa am bwy a beth sydd ar gael. Mae yna hefyd un rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fydd yn ei gwneud yn llawer haws i bobl ifanc wybod sut y gallant gael mynediad i gyngor a chefnogaeth. Mae gennym gymaint i’w gynnig yn Wrecsam ac rydym yn gwahodd pobl ifanc i gysylltu â ni os byddant yn teimlo ar unrhyw adeg eu bod angen cymorth i gynllunio eu camau nesaf.”
Os ydych eisiau cysylltu â phobl sy’n gallu eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir, gallwch ffonio 01978 295515 neu e-bost getgoing@wrexham.gov.uk.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL