Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwario miliynau i ailwampio ysgol yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwario miliynau i ailwampio ysgol yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Gwario miliynau i ailwampio ysgol yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 24, 2022 2:04 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
School classroom
RHANNU

Mae ysgol leol yn paratoi ar gyfer trawsnewidiad gwerth miliynau a fydd yn golygu bod y cyfleusterau dysgu gorau yn Johnstown.

Cynnwys
  • Cyfnod cyffrous
  • Amserlen a chyngor i rieni
    • 10 – 31 Ionawr
    • Wythnos sy’n cychwyn 31 Ionawr
    • 7 – 18 Chwefror
    • 18 Chwefror
    • 21 – 25 Chwefror
    • 28 Chwefror
    • 1 Mawrth

Bydd yr estyniad a gwaith ailwampio gwerth £4.5 miliwn yn Ysgol yr Hafod yn golygu y bydd modd i blant y babanod ac iau gael eu haddysgu ar yr un safle ar Ffordd Bangor.

Mae paratoadau’n cael eu gwneud er mwyn sicrhau na fydd unrhyw beth yn amharu ar ddysgu’r disgyblion tra bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo, a diwedd mis Chwefror (ar ôl gwyliau hanner tymor), bydd y disgyblion iau yn symud o Ffordd Bangor i safle babanod yn Rhodfa Melyd.

Mae dosbarthiadau symudol yn cael eu gosod yn barod i allu derbyn y niferoedd ychwanegol, ac mae rhieni a phreswylwyr yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Cyfnod cyffrous

Yn ôl Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Cynghorydd David A Bithell, mae cynlluniau’n mynd rhagddynt yn dda:

“Y cam nesaf yw symud pob disgybl i safle’r Cyfnod Sylfaen ar Rhodfa Melyd o 1 Mawrth, ac rydym ni’n cyfathrebu gyda rhieni a phreswylwyr lleol ynghylch y cynlluniau.

“Mae hi’n gyfnod cyffrous ac rydym ni’n edrych ymlaen at gael ysgol newydd a gwella’r cyfleusterau i blant a staff – er rydym ni’n cydnabod y bydd y problemau parcio yn her yn ystod y cyfnod dros dro.

“Rydym ni’n gweithio’n galed iawn i fynd i’r safle â phryderon lleol a bydd yr ysgol a minnau yn diweddaru’r rhieni a phreswylwyr wrth i’r gwaith fynd rhagddo”.

Dywedodd y Pennaeth Mrs Alison Heale:

“Mae pobl ifanc Johnstown yn haeddu’r cyfleusterau gorau, a phan fydd y gwaith yn Ffordd Bangor wedi’i gwblhau, bydd gennym amgylchedd dysgu modern sydd yn ysbrydoli ac a fydd o fudd i’n holl blant.

“Er y bydd yna heriau yn y cyfnod dros dro, rydym ni wedi paratoi’n dda ac yn barod i wynebu’r heriau hynny. Mae hi’n gyfnod tu hwnt o gyffrous i ddisgyblion, staff a rhieni.”

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:

“Fe fydd dod â’r holl blant ynghyd ar un safle modern – gyda’r dosbarthiadau a chyfleusterau gorau – yn gam cyffrous ymlaen i Ysgol yr Hafod.

“Mae hi’n ysgol wych gyda staff a llywodraethwyr ymroddedig, a dwi wrth fy modd y gallwn ni ymgymryd â’r gwaith yma gan ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael trwy raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.”

Amserlen a chyngor i rieni

Mae’r dyddiadau canlynol yn rhoi amserlen ddefnyddiol i rieni a phreswylwyr lleol…

10 – 31 Ionawr

Gwaith paratoadol ar gyfer dosbarthiadau symudol yn Rhodfa Melyd (draeniau, sylfaeni ac ati)

Wythnos sy’n cychwyn 31 Ionawr

Y dosbarthiadau symudol yn cyrraedd.

  • Os ydych chi’n byw ar ffyrdd a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y llwybr neu’r dosbarthiadau symudol a chraen, fe ddylech chi dderbyn llythyr gyda map o’r llwybr.

7 – 18 Chwefror

Paratoi’r dosbarthiadau symudol yn barod ar gyfer y plant iau.

18 Chwefror

Fe fydd safle Ffordd Bangor ar gau i ddisgyblion er mwyn i’r dodrefn gael ei bacio a’i symud. Safle Rhodfa Melyd ar agor fel arfer.

21 – 25 Chwefror

Wythnos hanner tymor – ysgol ar gau.

  • Bydd timau’n gorffen symud dodrefn o safle’r babanod yn Ffordd Bangor i safle’r plant iau yn Rhodfa Melyd.

28 Chwefror

Diwrnod hyfforddi staff – ysgol ar gau i ddisgyblion.

  • Bydd staff yn dadbacio a pharatoi’r ystafelloedd dosbarth yn barod i’r disgyblion ddychwelyd.

1 Mawrth

Ysgol yn ailagor.

  • Bydd pob disgybl (babanod ac iau) yn dychwelyd i’r safle yn Rhodfa Melyd, gan alluogi i’r gwaith adeiladu gychwyn yn Ffordd Bangor.
  • Bydd yr hebryngwyr croesfannau ysgol yn symud o Ffordd Bangor i safle plant babanod wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo.
Rhannu
Erthygl flaenorol Are you 16? Ydych chi’n 16 oed? Beth yw eich dewisiadau?
Erthygl nesaf Caffael hen safle’r Hippodrome Caffael hen safle’r Hippodrome

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Gorffennaf 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English