Mae bod yn aelod o’r clwb “Hysbysiadau Casglu Sbwriel” yn golygu na fyddwch chi’n anghofio am gasgliad bin eto, ac mi fyddwch chi wastad yn gwybod pryd i roi eich bin allan gyda’ch deunyddiau ailgylchu.
Rhwng dechrau mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr bu i 1454 o bobl gofrestru ar ein gwefan drwy nodi cyfeiriad e-bost a chod post. Mae hyn yn golygu bod yna 8840 o bobl bellach yn derbyn yr hysbysiadau.
Mae’r hysbysiadau yn golygu na fyddwch chi’n anghofio pryd y mae’ch diwrnodau casglu, gan y byddwch chi’n derbyn e-bost y diwrnod cynt i’ch atgoffa chi i roi eich bin allan gyda’ch deunyddiau ailgylchu.
Bu i’r rhan fwyaf a gofrestrwyd fis Rhagfyr a mis Ionawr wneud hynny drwy ddilyn dolen gyswllt fel yr un isod – os nad ydych chi wedi cofrestru i dderbyn hysbysiad casglu sbwriel, beth am wneud hynny rŵan?
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gan y rhan fwyaf o aelwydydd fynediad i’r rhyngrwyd felly dyma offeryn ar-lein defnyddiol iddyn nhw. Mae’n rhad ac am ddim a hefyd yn ystyried newidiadau i gasgliadau dros y Nadolig, a all fod yn broblemus i ni a’n trigolion.”