Os ydych chi dros 18 oed ac yn darparu gofal a/neu gefnogaeth ddi-dâl i aelod o’r teulu, partner, plentyn, ffrind neu gymydog sydd yn byw yn Wrecsam, fe allwch chi wneud cais am Daliad Uniongyrchol i Ofalwyr i’ch helpu chi fel gofalwr.
Mae’r gronfa yn cefnogi gofalwyr i wella eu hiechyd a’u lles.
Gellir defnyddio’r Taliad Uniongyrchol i Ofalwr ar rywbeth sydd yn dangos yn glir ei fod yn rhoi seibiant i chi, yn eich cefnogi yn eich rôl fel gofalwr, a/neu’n cynnal neu’n gwella eich iechyd a’ch lles.
Gall hyn gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
• Gwyliau/seibiant
• Aelodaeth Canolfan Hamdden
• Ffioedd hobi
• Sesiynau therapi
• Gwersi gyrru
• Offer cyfrifiadurol
• Ffioedd cwrs coleg
• Offer domestig
• Costau addurno
Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cais am Daliad Uniongyrchol i Ofalwyr, cysylltwch â: NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) ar (01978) 423114 neu Adran Gofal Cymdeithasol I Oedolion Wrecsam ar (01978) 292066.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN