Pan fyddwch yn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol eleni, byddwch angen gwybod ym mha etholaeth ydych yn byw.
Wyddoch chi fod ffiniau etholaethau yn y DU wedi newid?
Mae’n golygu efallai bydd yr AS y byddwch yn pleidleisio amdanynt yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, yn wahanol i’r hyn oeddech wedi meddwl.
Ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae tair etholaeth wahanol – Wrecsam, Dwyrain Clwyd a Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. Mae mwyafrif y wardiau yn disgyn o fewn etholaeth Wrecsam, ond mae rhai nad ydynt. Gallwch ddarganfod os ydych yn pleidleisio yn Nwyrain Clwyd neu Sir Drefaldwyn a Glyndŵr ar dudalen etholiadau a swyddi presennol y Cyngor.
Pam fod y ffiniau wedi newid?
Weithiau, mae’r pedwar Comisiwn Ffiniau yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn adolygu ffiniau pob etholaeth i sicrhau eu bod yn aros tua’r un maint. Mae’r newidiadau rydym yn eu gweld yn yr etholiad cyffredinol eleni yn adlewyrchu cynnydd a gostyngiad mewn poblogaeth.
Mae ffiniau etholaethau yn cael eu hadolygu o dro i dro er mwyn sicrhau bod etholaethau tua’r un maint gan barchu cysylltiadau lleol rhwng ardaloedd. Roedd yr adolygiad yn argymell newidiadau i etholaethau i adlewyrchu’r cynnydd a gostyngiad mewn poblogaethau. Gallwch ddarganfod mwy am adolygiad y Comisiwn Ffiniau ar eu tudalen gwe etholaethau seneddol.