Mae Cyngor Wrecsam yn bwriadu ymestyn oriau agor gorsaf fysus Wrecsam yn dilyn twf parhaus yn y defnydd o fysus a buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau trafnidiaeth leol.
Mae disgwyl i’r gwasanaeth diogelwch gael ei ymestyn o 6pm i 10pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ynghyd â gwasanaeth glanhau ychwanegol i wella ymddangosiad yr orsaf fysus y tu mewn a’r tu allan.
Bydd amseroedd agor y toiledau hefyd yn ymestyn o 5 Mai 2026
Mae Cyngor Wrecsam hefyd yn ystyried defnyddio byrddau gwybodaeth a mannau swyddfa newydd yn yr adeilad fel rhan o’r datblygiadau yn y dyfodol.
Mae’r gwelliannau yn dilyn cynnydd yn y defnydd o fysus ar ôl buddsoddiad Cyngor Wrecsam o £650,000 mewn gwasanaethau bysus lleol ers 2023.
Diolch i’r buddsoddiad hwn, mae llwybrau newydd a gwasanaethau estynedig gyda’r nos wedi helpu i sbarduno mwy o ddefnydd o wasanaethau bws ledled y fwrdeistref, gan greu dros 150,000 o deithiau teithwyr ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth Strategol: “Rydym wedi gweithio’n galed dros y 4 blynedd diwethaf i gynyddu cwsmeriaid bysus yn ein cymunedau, gyda llwybrau newydd a gwasanaethau gyda’r nos sydd wedi profi’n llwyddiannus.”
“Mae hyn wedi arwain at gynnydd o tua 42.6% yn nifer y defnyddwyr bysiau, sy’n mynd yn bell i gefnogi’r ddau amcan a osodwyd gennym ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn Wrecsam.”
“Fel rhan o’r cam nesaf ac ar ôl gwrando ar adborth, rydym wedi cytuno i gynyddu diogelwch rhwng 6pm a 10pm bob diwrnod gwaith, ynghyd â glanhau ychwanegol a’r toiledau yn aros ar agor, mae hyn er mwyn rhoi sicrwydd i’r rhai sy’n teithio i ac o ganol dinas Wrecsam yn y nos.”
Nod y gwelliannau sydd yn cael eu cynllunio yw gwella’r amgylchedd cyffredinol yn yr orsaf fysus ar gyfer teithwyr, tra’n cefnogi uchelgais ehangach y cyngor i wella cysylltiadau trafnidiaeth ac annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Bwriedir i’r gwelliannau ddigwydd o 5 Mai 2026



