Os ydych yn ymgeisio i aros yn y DU ar ôl Brexit – ond yn ei chael yn anodd ymdopi gyda’r broses ymgeisio – mae yna lawer o gymorth ar gael.
Er bod yna ansicrwydd yn parhau ynglŷn â phryd a sut y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae dinasyddion UE o dramor yn dal angen ymgeisio am ‘statws preswylydd sefydlog’ fel y gallant barhau i fyw a gweithio yma.
Gallwch ymgeisio drwy wefan Llywodraeth y YMA
Neu ffoniwch llinell gymorth y llywodraeth ar 0300 123 7379.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Ond os byddwch angen mwy o gefnogaeth gyda’ch cais, mae yna ddigon o ddewisiadau…
Gwasanaeth Hawliau Dinesydd UE
Mae Gwasanaeth Hawliau Dinesydd UE yn darparu cyngor am ddim, diduedd a chyfrinachol ar statws preswylydd sefydlog.
Mae hefyd yn cynnig cymorth manwl, arbenigol ar faterion cyflogaeth a lles cymdeithasol – felly os ydych yn cael problemau gyda gwaith, budd-daliadau lles neu ddyled a’ch bod yn bryderus sut y gallant effeithio ar eich cais, efallai y byddai’n werth cysylltu.
Ffoniwch 0300 3309 059 i drefnu apwyntiad.
MIND Gogledd Ddwyrain Cymru
Os ydych yn hŷn, â materion iechyd meddwl neu wedi bod yn dioddef cam-drin domestig, gallwch gael cymorth gyda’ch cais gan elusen iechyd meddwl MIND.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01352 974430.
Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo
Gallwch fynd i wefan Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo – lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit.
Mae’n cynnwys llawer o ddolenni i sefydliadau sy’n darparu cymorth arbenigol gyda cheisiadau statws preswylydd sefydlog, gan gynnwys:
• TGP Cymru – cefnogaeth i ddinasyddion Roma Ewropeaidd.
• Cymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar – cefnogaeth i EEA byddar a dinasyddion o’r Swistir a’u teuluoedd.
• Hawliau Menywod – cyngor cyfreithiol i ferched sy’n ddiamddiffyn oherwydd trais yn erbyn menywod a merched.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD