Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
Y cyngor

Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 1, 2025 10:41 am
Rhannu
Darllen 2 funud
ddiwrnod y cesglir eich biniau
RHANNU

Mae gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn ffordd wych i wybod pa bryd fydd eich casgliadau ailgylchu dros y Nadolig.

Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.

Gallwch wirio eich diwrnod biniau yma. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio eich diwrnod biniau, a gallwch wirio ar ran ffrindiau, teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu enw eu stryd.

Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud hyn dros gyfnod y Nadolig, pan fo newidiadau i’r patrymau casglu arferol yn debygol.

Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasglu biniau yw cofrestru i dderbyn e-byst atgoffa. Os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.

Ailgylchu ychwanegol

Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).

Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.

Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol yr Hafod, Johnstown Ysgol yr Hafod, Johnstown, yn dathlu arolwg cadarnhaol gan Estyn
Erthygl nesaf Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025 Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English