Erthygl Gwadd – Heddlu Gogledd Cymru
Bydd ymgyrchoedd plismona cydlynol, sydd hefo’r nod o sicrhau’r diogelwch mwyaf posibl i’r cyhoedd yn ystod cyfnod y Nadolig, yn cael eu rhoi ar waith yn Wrecsam y penwythnos hwn.
Bydd gorchymyn gwasgaru yn cael ei roi mewn lle yng nghanol dinas Wrecsam am y tri diwrnod nesaf, yn dilyn cynnydd diweddar mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
‘Da ni wedi derbyn sawl adroddiad diweddar am ddigwyddiadau hefo grŵp o tua 25 o bobl ifanc yn ymosod, yn sarhau’n hiliol a chreu difrod troseddol, gan ddefnyddio cyffuriau a dychryn staff ac aelodau’r cyhoedd mewn mannau manwerthu, siopau bwyd a gorsaf fysiau Wrecsam.
O ganlyniad, mae’r Arolygydd Heidi Stokes wedi awdurdodi gorchymyn gwasgaru o 4pm heddiw sef Dydd Gwener, 20 Rhagfyr, tan 4pm ar ddydd Sul, 22 Rhagfyr, gan gwmpasu’r ardal sydd wedi’i hamlinellu ar y map isod.
Bydd patrolau ychwanegol yng nghanol y ddinas heddiw fel rhan o Ymgyrch Restore. Mae hyn wedi’i hwyluso gan gyllid gan y Swyddfa Gartref er mwyn targedu llecynnau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd yr Arolygydd Stokes: “Ni fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef yn ein dinas ni, yn enwedig ar adeg pan mae nifer fawr o bobl yn ymweld dros gyfnod yr ŵyl.”
“Dwi am sicrhau pobl Wrecsam ein bod ni’n cymryd y mater hwn o ddifrif. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein dinas ni’n annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef.
“Mae’r gorchymyn yn rhoi’r grym i SCCH gyfeirio unrhyw un sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol i adael yr ardal a pheidio dychwelyd.”
Bydd Tîm Plismona Cymdogaethau Dinas Wrecsam hefyd ar batrôl nos Wener er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cadw’n saff wrth fwynhau nosweithiau allan yr ŵyl.
Bydd ganddyn nhw bresenoldeb amlwg iawn yng nghanol y ddinas er mwyn lleihau troseddu a rhoi sicrwydd i ferched. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy herio unrhyw un sy’n dangos ymddygiad ymosodol rhywiol, aflonyddu neu ymddygiad amhriodol a rheibus.
Mae’n rhan o Ymgyrch Lex, sef partneriaeth fenter hefo safleoedd trwyddedig, sy’n gweld swyddogion yn cael eu gosod bob nos Wener a Sadwrn er mwyn rhoi presenoldeb amlwg yng nghanol y dref er mwyn cadw pobl yn saff.
Bydd swyddog trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru hefyd allan ar batrôl yng nghanol y ddinas, gan gysylltu hefo safleoedd trwyddedig er mwyn codi ymwybyddiaeth am y fenter Ask for Angela a chynnig cyngor ar sut i helpu gwarchod cwsmeriaid.
Fe ychwanegodd Sarah Hughes-Jones, Rhingyll Dinas Wrecsam: “‘Da ni eisiau i bobl ddod i mewn i Wrecsam dros gyfnod yr ŵyl a chael amser gwych.
“Bydd swyddogion yn cael eu gosod ac wrthi’n patrolio canol y ddinas yn er mwyn helpu pawb fwynhau eu nosweithiau yn saff. Byddan nhw’n herio ymddygiad amhriodol a gofalu am unrhyw unigolion y mae eu hymddygiad nhw’n peri pryder neu’n gwneud i bobl deimlo’n anghyfforddus.
“Mae gwarchod merched a genethod ifanc rhag aflonyddu, cam-drin a thrais yn flaenoriaeth i ni. Dyna pam ‘da ni’n cydweithio’n barhaus hefo’n partneriaid, gan gynnwys lleoliadau, er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n saff yn ymweld hefo’n dinas gyda’r nos.”
Yn ystod y dydd, bydd Swyddogion Troseddau Ffyrdd yn cydweithio hefo swyddogion gorfodi Cyngor Wrecsam er mwyn gwirio cerbydau ar hap er mwyn nodi unrhyw dacsis heb drwydded sy’n gweithredu yn yr ardal.
Fe ychwanegodd y Rhingyll Hughes-Jones: “Nod y gwiriadau ydy gwneud yn siŵr bod yr holl drwyddedau a manylion cerbydau yn gyfredol. Er bod y rhan fwyaf o yrwyr yn gweithio’n galed ac yn onest, byddwn yn ceisio nodi unrhyw un sy’n camddefnyddio eu swydd ac yn peri risg i deithwyr.
“Gallai mynd i mewn i dacsi heb drwydded roi eich diogelwch mewn perygl, oherwydd efallai nad ydych yn gwybod pwy sy’n gyrru neu a ydy’r cerbyd yn saff. Archebwch dacsi bob amser drwy gwmni sydd hefo enw da. Rhaid i dacsis trwyddedig arddangos platiau tacsi yn y cerbyd a thu allan.
“Os ‘da chi mewn sefyllfa lle ‘da chi’n teimlo’n anghyfforddus yn ystod noson allan, ystyriwch godi’r larwm neu ffonio’r heddlu cyn gynted â phosib.”
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ymgyrch Ask for Angela yma: Hafan – Ask For Angela