Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Groundwork Gogledd Cymru yn gofyn am Farn y Gymuned am Gynlluniau i Adfer Treftadaeth Dyffryn Clywedog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Groundwork Gogledd Cymru yn gofyn am Farn y Gymuned am Gynlluniau i Adfer Treftadaeth Dyffryn Clywedog
Pobl a lle

Groundwork Gogledd Cymru yn gofyn am Farn y Gymuned am Gynlluniau i Adfer Treftadaeth Dyffryn Clywedog

Diweddarwyd diwethaf: 2024/12/19 at 11:32 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Groundwork Gogledd Cymru yn gofyn am Farn y Gymuned am Gynlluniau i Adfer Treftadaeth Dyffryn Clywedog
RHANNU

Erthygl Gwadd – Groundwork Gogledd Cymru

Mae prosiect uchelgeisiol Groundwork Gogledd Cymru i adfer, gwarchod, a hyrwyddo treftadaeth adeiledig a naturiol Dyffryn Clywedog yn mynd rhagddo ers chwe mis erbyn hyn, diolch i arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Derbyniwyd £246,530 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a £22,600 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ynghyd â chymorth gan sefydliadau partner.

Mae Partneriaeth Dyffryn Clywedog, o dan arweiniad Groundwork Gogledd Cymru, wedi bod yn gweitho gyda’r gymuned i ddatblygu cynlluniau manwl a fydd yn sail i gais grant llawn i’r Loteri Genedlaethol. Nod y cynlluniau hyn yw gwella treftadaeth gyfoethog y dyffryn, gwella hygyrchedd a chynefinoedd bywyd gwyllt, tra’n creu cyfleoedd i ddysgu rhagor am y diwylliant ac ymgysylltu â’r gymuned.

Dros y chwe mis diwethaf, mae tîm y prosiect wedi trefnu pob math o weithgareddau a digwyddiadau, gan gasglu adborth gwerthfawr gan breswylwyr, ymwelwyr, a mudiadau lleol. O lwybrau treftadaeth i’r teulu i ddyddiau gwirfoddoli, mae’r ymdrechion hyn wedi cryfhau’r cysylltiadau â hanes a harddwch naturiol y dyffryn.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Wrth i’r tîm agosáu at lunio’r cynlluniau terfynol, mae Groundwork Gogledd Cymru yn awyddus i ofyn am farn y gymuned a’r cyhoedd yn ehangach i sicrhau bod y prosiect yn adlewyrchu blaenoriaethau a dyheadau lleol. Gallwch gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein, a bydd eich barn yn helpu i lunio dyfodol Dyffryn Clywedog.

Dywedodd Richard Aram, Pennaeth Prosiectau Groundwork Gogledd Cymru, “Rydyn ni wedi cael chwe mis gwych yn gweithio’n agos gyda’r gymuned i ailddychmygu dyfodol posibl Dyffryn Clywedog. Mae’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd wedi bod yn anhygoel, ond mae digon o amser ar ôl i glywed rhagor o leisiau. Rydyn ni’n annog pawb sy’n caru’r lle arbennig hwn i gwblhau’r arolwg.”

Gweledigaeth y prosiect yw trawsnewid y dyffryn yn atyniad diwylliannol ac adnodd cymunedol bywiog, cydnerth, a chynhwysol. O lwybrau treftadaeth hygyrch i ddigwyddiadau amrywiol, y nod yw creu lleoliad sy’n apelio at bobl o bob oedran, sydd â phob math o ddiddordebau, yn lleol a thu hwnt.

Bydd digwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli’r dyfodol yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan a rhannu eu syniadau. Mae Groundwork Gogledd Cymru yn gwahodd pawb i helpu i siapio dyfodol y dyffryn.

Gallwch lenwi’r arolwg cymunedol yma: https://survey.alchemer.eu/s3/90721835/Eich-Dyffryn-Eich-Llais-Arolwg-Addysg  

I gael manylion am ddigwyddiadau’r dyfodol a sut i gymryd rhan, ewch i www.groundworknorthwales.org.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant! Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant!
Erthygl nesaf Ymgyrchoedd plismona cydlynol ar waith yn Wrecsam er mwyn sicrhau'r diogelwch mwyaf posibl i'r cyhoedd y penwythnos hwn Ymgyrchoedd plismona cydlynol ar waith yn Wrecsam er mwyn sicrhau’r diogelwch mwyaf posibl i’r cyhoedd y penwythnos hwn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English