Ddydd Gwener 24 Tachwedd 2023 rhwng 10am a 12pm, cynhelir bore coffi yn Tŷ Pawb ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn – yr ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn merched.
Bydd yna luniaeth ysgafn, adloniant, cerddoriaeth fyw a stondinau i dynnu sylw at y gwasanaethau cymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd ar gael yn Wrecsam.
Cefnogir y digwyddiad gan Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cefnogaeth yn ôl yr Angen Wrecsam (BAWSO), sy’n darparu cefnogaeth i unigolion a chymunedau ethnig du lleiafrifol yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth, trais a chamfanteisio, Stepping Stones, Catalyddion Cymunedol, Hafan Cymru, RASASC, y Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol, DASU, yr Uned Diogelwch Trais Teuluol a Dechrau’n Deg.
Bydd y sesiwn yn cael ei agor gan y Cynghorydd Beverley Parry-Jones a bydd ein partneriaid asiantaeth yn ymuno â ni (y mae eu logos wedi’u rhestru ar yr hysbyseb), mae hyn yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, RASASC, BAWSO, Stepping Stones, DASU ac ati. Bydd Natasha Borton (sy’n oroeswr ei hun) yn darparu adloniant.