Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud ar gynigion ar gyfer Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dweud eich dweud ar gynigion ar gyfer Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam
Arall

Dweud eich dweud ar gynigion ar gyfer Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 13, 2023 1:23 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham General station - Transport for Wales
RHANNU

Erthygl gwestai gan Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ystyried trawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn ganolfan drafnidiaeth leol a gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn.

Mae TrC yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam, a phartneriaid ehangach, i gyflwyno cynllun adfywio mawr yn yr ardal o amgylch Gorsaf Wrecsam Cyffredinol, y cyfeirir ato fel ‘Porth Wrecsam’.

Nod yr ymgynghoriad 6 wythnos yw cael mwy o fanylion am unrhyw heriau y mae aelodau’r cyhoedd a busnesau yn eu hwynebu wrth deithio yn ôl ac ymlaen o Orsaf Reilffordd Wrecsam Cyffredinol ac wrth ddefnyddio’r orsaf.

Mae hyn er mwyn sicrhau bod ystod eang o adborth a chyfleoedd posibl yn yr ardal yn cael eu canfod, tra hefyd yn darparu diweddariad i gynigion Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam.

Mae’r cyfnod ymgysylltu wedi dechrau a bydd ar agor nes 19 Rhagfyr 2023. Gallwch ddarllen rhagor am y cynigion a llenwi ffurflen adborth ar-lein yn: dweudeichdweud.trc.cymru/hyb-trafnidiaeth-porth-wrecsam

Bydd Trafnidiaeth Cymru’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd drafod y dyluniadau a’r cynigion ar gyfer y gwasanaethau gyda thimau’r prosiect. Dyma’r manylion:

  • Tŷ Pawb (Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BB) – 14 Tachwedd, 14:00-18:00
  • Ystafell B10 Prifysgol Wrecsam (Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, Cymru, LL11 2AW) – 15 Tachwedd, 09:00-13:00
  • Gorsaf Wrecsam Cyffredinol (Ffordd yr Orsaf, Wrecsam, LL11 2AA) – 29 Tachwedd, 09:00-19:00

Bydd ffurflenni adborth papur yn y Gymraeg a Saesneg ar gael yn y sesiynau galw heibio, neu gellir casglu’r rhain yn ystod y cyfnod ymgysylltu o Swyddfa docynnau gorsaf Wrecsam Cyffredinol, Llyfrgell Wrecsam a Tŷ Pawb (o 14 Tachwedd).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, cysylltwch â’r tîm:

E-bost: PorthWrecsamGateway@wsp.com

Yn y post (At Sylw: Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam): Trafnidiaeth Cymru, Tŷ Ellice (Uned H), Pentref Busnes Wrecsam, Ffordd Ellice, Wrecsam, LL13 7YL.

Rhannu
Erthygl flaenorol White Ribbon Ymunwch â ni yn Tŷ Pawb i ddathlu Diwrnod y Rhuban Gwyn
Erthygl nesaf Rheiliau dillad yng Nghyfnewidfa Ddillad Wrecsam Byddwch yn garedig gyda’ch poced a’r blaned – ewch i Gyfnewidfa Ddillad Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English