Drwy gydol misoedd Chwefror a Mawrth fe fydd Stryt Yorke a’r Stryt Fawr ar gau i draffig ar nos Wener a nos Sadwrn, o 6pm tan 6am.
Pwrpas cau’r ffyrdd yw i wella diogelwch a phrofiad y bobl hynny sydd yng nghanol y ddinas i fwynhau economi’r nos.
Os ydych chi’n crwydro canol y ddinas yn ystod yr adegau hyn, fe fydd arwyddion i nodi’r llwybrau amgen a bydd mynediad i gerddwyr drwy’r amser.
Bydd mynediad hefyd i’r busnesau hynny sydd ar y rhan o’r ffyrdd sydd ar gau, ond anogwn berchnogion busnes i weithio o amgylch yr amseroedd hyn lle bynnag fo’n bosibl er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o gau’r ffyrdd.
Caiff y ffyrdd eu cau yn dilyn cais gan Heddlu Wrecsam gan eu bod yn dweud bod mwy o bobl yng nghanol y ddinas gyda’r nos ac mae ganddynt bryderon am ddiogelwch y cyhoedd.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD