Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 15,285 o deuluoedd yng Nghymru ar eu hennill drwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > 15,285 o deuluoedd yng Nghymru ar eu hennill drwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Pobl a lle

15,285 o deuluoedd yng Nghymru ar eu hennill drwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 3:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Children having fun
RHANNU

Erthyl gwadd: CThEF

Ym mis Rhagfyr, gwnaeth y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth arbed arian ar gostau gofal plant i fwy na 15,000 o deuluoedd yng Nghymru. Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog y rhai sydd heb gofrestru eto i beidio â cholli allan.

Mae’r ffigurau diweddaraf a ddatgelwyd gan CThEF yn dangos bod 3,595 yn fwy o deuluoedd yng Nghymru yn defnyddio’r cynllun o’u cymharu â mis Rhagfyr 2021.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Cymorth ariannol i deuluoedd sy’n gweithio yw’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Mae’r cynllun ar gael i deuluoedd â phlant hyd at 11 oed, neu 16 oed os oes gan eu plentyn anabledd. Gellir defnyddio’r taliad atodol gan y llywodraeth i dalu am unrhyw ofal plant cymeradwy gan gynnwys clybiau gwyliau, clybiau brecwast neu ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd.

Ym mis Rhagfyr 2022, cafodd cyfanswm o £41.5 miliwn o daliadau atodol gan y llywodraeth eu rhoi i deuluoedd sy’n gweithio ar draws y DU. Roedd pob teulu yn arbed hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn neu £4,000 os yw eu plentyn yn anabl.

Dylai’r teuluoedd nad ydynt wedi’u cofrestru hyd yma wirio’u cymhwystra a gwneud cais ar-lein heddiw.

Mae agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn gyflym ac yn hawdd ac mae’n bosibl gwneud hynny unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Rydyn ni am helpu teuluoedd i wneud y gorau o’u harian a gall y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth helpu i dalu tuag at eu costau gofal plant. Chwiliwch am ‘Tax Free Childcare’ ar GOV.UK i ddysgu rhagor.”

Am bob £8 sy’n cael ei dalu i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, bydd teuluoedd yn cael £2 yn ychwanegol yn awtomatig. Mae teuluoedd yn gallu arbed hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) fesul plentyn neu £1,000 (£4,000 y flwyddyn) os yw eu plentyn yn anabl.

Mae gan fwy na miliwn o deuluoedd yn y DU hawl i ryw fath o gymorth gofal plant gan y llywodraeth, ac mae’r llywodraeth yn annog y rhai sy’n gymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.  Gall teuluoedd gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Gofal Plant syn Rhydd o Dreth drwy’r wefan Dewisiadau Gofal Plant.

Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael cymorth gyda chostau byw, gan gynnwys help gyda chostau gofal plant.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham city centre Cau Ffyrdd Stryt Yorke a’r Stryt Fawr
Erthygl nesaf Welsh medium education Ydych chi wedi ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English