Mae’n debyg eich bod wedi gweld yr holl waith diweddar yn ein cyfleusterau hamdden, gyda gwaith adnewyddu a diweddaru wedi eu cwblhau yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Byd Dŵr yn Wrecsam.
Ond oeddech chi’n gwybod fod nifer o safleoedd defnydd deuol yn ysgolion Wrecsam hefyd wedi gweld gwelliant?
Mae’r gwelliannau yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.7 miliwn a wnaed gan Gyngor Wrecsam a Freedom Leisure i’r pedwar cyfleuster hamdden a’r caeau 3G newydd yn y fwrdeistref sirol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Fe fu’r Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, gyda chyfrifoldeb dros Hamdden, yn ymweld â chyfleusterau defnydd deuol yn Ysgol Clywedog, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Rhosnesni, Ysgol Rhiwabon ac Ysgol Uwchradd Darland i weld y gwaith ar ôl ei gwblhau.
Roedd y gwaith yn cynnwys gwelliannau o ran arbed ynni gyda hidlwyr a gorchuddion pyllau newydd, golau effeithlon o ran ynni, ailaddurno yn y pum safle a gosod cae 3G newydd sbon.
Dywedodd y Cynghorydd Rogers: “Mae’r gwelliannau cyfalaf yng Nghanolfannau Hamdden a Gweithgareddau’r Byd Dŵr, Gwyn Evans, Y Waun a Queensway wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar.
“Ond dylai aelodau o’r cyhoedd hefyd wybod fod cyfleusterau sydd wedi eu gwella hefyd ar gael mewn safleoedd defnydd deuol mewn ysgolion fel Clywedog a Rhiwabon, yn ogystal â Morgan Llwyd, Darland a Rhosnesni.
“Yn ystod fy ymweliadau, fe ges y cyfle i weld sut y mae gwelliannau yn Ysgol Clywedog ac Ysgol Rhiwabon eisoes wedi eu croesawu gan ddefnyddwyr gwasanaeth.
“Rwy’n sicr y bydd y safleoedd defnydd deuol newydd a’r rhai sydd wedi eu gwella yn adnoddau hynod o bwysig i breswylwyr sy’n byw gerllaw.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI