Wrth i’r gaeaf agosáu, gall rhywfaint o wyrdd-ddail golau fod yn wledd i’r llygaid.
Yn gynharach yn yr hydref, trefnodd ein Swyddfa Ystâd yn Rhosllanerchrugog gystadleuaeth gerddi ymhlith tenantiaid, i ganfod pa un ohonynt oedd y garddwr mwyaf brwd a dawnus.
Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys cartrefi cyngor yn Rhos, Ponciau, Penycae a Johnstown, ac roedd categorïau yn cynnwys popeth o lawntydd i forderi i botiau a basgedi crog.
Mae rhai o’r enillwyr yn y lluniau isod:
Roedd nifer o’r gwobrau a ddyfarnwyd i enillwyr y Gystadleuaeth wedi’u cyfrannu gan ein contractwyr fel rhan o’r cynllun Mantais Gymunedol.
Roedd contractwyr a gyfrannodd wobrau yn cynnwys Banner Group, Barlows UK, Mike Pryde Electrical Services Ltd a Freedom Leisure.
Mae gofyn i gontractwyr sy’n gwneud gwaith i’r Cyngor sefydlu cynlluniau Mantais Gymunedol sy’n helpu pobl leol a’r economi.
Mae Cynlluniau y mae’r contractwyr eisoes wedi’u darparu yn y Fwrdeistref yn cynnwys adnewyddu cyfleusterau lleol, prynu cyflenwadau gan fusnesau lleol a darparu swyddi a chynlluniau hyfforddi ar gyfer pobl leol.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Wrth gwrs, rhaid llongyfarch enillwyr Cystadleuaeth Gerddi eleni. Ond rwyf am longyfarch pawb a gymerodd ran hefyd – gwnaeth pob cystadleuydd gyflwyno gerddi a phlanwyr hollol wych, ac mae’r gwaith maen nhw wedi’i roi i mewn iddynt yn haeddu cydnabyddiaeth.
“Hoffwn ddiolch hefyd i staff yn Swyddfa Ystâd Rhos, a fu’n cydlynu a beirniadu’r gystadleuaeth, a helpu tenantiaid i gymryd rhan ynddi.
“A rhaid diolch hefyd i gontractwyr sydd wedi cyfrannu gwobrau yn garedig iawn ar gyfer y gystadleuaeth.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I