Penodi Swyddog Amgueddfa Bêl-droed
Yn rhan o ddatblygiadau’r amgueddfa bêl-droed, rydym ni’n falch o gyhoeddi bod Nick Jones wedi ymuno â ni’n ddiweddar, ac mae bellach wedi dechrau ar ei swydd fel swyddog amgueddfa bêl-droed.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Fe wnaethom ofyn i Nick ddweud ychydig wrthym am ei hun, ei swyddi blaenorol a beth fydd ei rôl yn yr amgueddfa…
Helo Nick ydw i, ac fe ymunais â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) yn ddiweddar fel Swyddog Amgueddfa Bêl-droed.
Dwi’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect yma o’r dechrau.
Does gen i ddim amheuaeth y bydd hi’n swydd gyffrous a heriol, ond mae yna ddigonedd o gyfleoedd hefyd!
Nod y prosiect fydd cydweithio â chymunedau er mwyn annog cyfranogiad ac ysgogi ymwelwyr o bob cefndir.
Bydd y prosiect yn cyd-fynd â datblygiadau eraill yn Wrecsam yn cynnwys Prosiect Porth Wrecsam.
Beth mae’r swydd yn ei olygu?
Fy nghyfrifoldeb i fydd curadu a gofalu am gasgliadau pêl-droed cyffrous Amgueddfa Wrecsam yn ogystal ag ychwanegu at y casgliad ymhellach er mwyn sicrhau bod yr amgueddfa newydd yn gallu adrodd hanes am esblygiad pêl-droed yn Wrecsam.
Fe fydd fy swydd i’n golygu gweithio ac ymgysylltu â budd-ddeiliad ar draws Cymru a’r byd pêl-droed ehangach.
Cyn ymuno â CBSW roeddwn i’n gweithio i Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Lloegr sydd wedi’i lleoli ym Manceinion.
Yn ystod fy amser gyda’r Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol roeddwn i’n ffodus o allu gweithio ar nifer o brosiectau. Roedd y rhain yn cynnwys arddangosfeydd i ddathlu 125 mlynedd o’r Gynghrair Bêl-droed, pêl-droed a’r Rhyfel Byd Cyntaf, Pelé a 50 mlynedd ers i Loegr ennill Cwpan y Byd yn 1966 (sori, y tro olaf y byddaf yn crybwyll y mater!)
Rydw i’n angerddol am bêl-droed, yn enwedig ei hanes cyfoethog ac amrywiol. Yn y byd pêl-droed gyfoes, mae treftadaeth yn cael ei anghofio yn aml. Mae creu amgueddfa bêl-droed newydd yn Wrecsam yn golygu cyfleoedd enfawr i adrodd hanes pêl-droed yng Nghymru, mae rhai yn adnabyddus iawn, a rhai heb eu datgelu eto.
Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn i bêl-droed yng Nghymru, o lwyddiant y tîm Cenedlaethol, drwodd i bêl-droed ar lawr gwlad a thwf cyflym yng ngêm y merched.
Rydym ni’n gobeithio dangos y gorau o bêl-droed yng Nghymru, ac i fod yn fan pererindod i gefnogwyr pêl-droed.
Diolch,
Nick
Fe wnaethom ni holi ychydig o gwestiynau cyflym i Nick hefyd:
Hoff dîm: Crewe Alexandra
Cae gorau oddi cartref: Edgeley Park, Stockport County
Hoff chwaraewr o’r gorffennol/presennol: Gorffennol – Ian Rush a John Barnes, Presennol – Erling Haaland a Charlie Kirk (Crewe)
Oeddech chi’n chwarae? Pa safle?: Yn wael – cefnddwr dde neu asgellwr dde
Hoff atgof pêl-droed: Hyfforddi Whalley Range Juniors ym Manceinion i’r rhai o dan 7 i 11 oed
Twrnamaint gorau: Cwpan y Byd Cyntaf – Italia ‘90
Cit gorau: Fy nghrys Crewe cyntaf o ’92 (wedi’i wisgo yn ymddangosiad cyntaf y clwb yn Wembley) – yn debyg i grys brychni glas a gwyn Man Utd 1990.
Cit gwaethaf: Gormod i sôn amdanynt!
VAR? Oes mae ei angen, ond mae angen iddo fod yn fwy esmwyth/yn gyflymach
Hoff steil gwallt pêl-droediwr: Carlos Valderrama
Swper gyda 4 pêl-droediwr o’r gorffennol a phresennol. Pwy fyddwn nhw?: Ted Drake (oedd yn gymydog i Nain), George Best, Bill Shankly, Marcus Rashford
Beth yw dy ‘ffaith’ pêl-droed gorau: Mae Crewe Alex wedi ennill Cwpan Cymru ddwywaith, yn 1936 ac 1937!
Gêm bêl-droed gyfrifiadurol orau: FIFA ‘97
Safle/sioe deledu/blog/podlediad pêl-droed gorau: Podlediad WSC
*Os hoffech chi gysylltu â Nick mewn cysylltiad â’r prosiect, gallwch ei e-bostio: nick1.jones@wrexham.gov.uk
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF