Gofynnir i bobl yn Wrecsam rannu eu barn am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu cymuned.
Mae Cyngor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) yn chwilio am gyfleoedd i sefydlu canolbwyntiau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
Fe fydd y canolbwyntiau yma’n dod â thimau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i ddarparu gwasanaethau lleol, wedi’u targedu. Efallai na fyddant o anghenraid mewn lleoliad corfforol sy’n cael ei rannu – fe allai ‘canolbwynt’ fod yn rhwydwaith o weithgareddau lleol, neu hyd yn oed yn dimau yn cydweithio dros y we.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Wrecsam: “Fe fydd lles yn ganolog i’r canolbwyntiau yma, gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i roi mynediad i chi i’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir pan fyddwch chi ei angen.
“Ond cyn i’r Cyngor, BIPBC a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ddatblygu eu syniadau, rydym angen gwybod mwy am brofiadau pobl.
“Rydym eisiau deall sut mae gwasanaethau lleol yn effeithio ar eich lles, ac a oes unrhyw beth yn eich atal rhag cael mynediad i’r gwasanaethau ar hyn o bryd.
“Rydym hefyd eisiau gwybod am flaenoriaethau yn eich cymuned, a’r cyfleoedd ar gyfer gwelliannau.
“Os oes gennych 10 munud, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg hwn. Mae eich cymorth yn hanfodol a bydd yn ein helpu ni i ddatblygu canolbwyntiau lles yn Wrecsam”.
Mae’r arolwg ar agor tan 1 Hydref ac mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan NECS (North of England Care System Support), sydd yn rhan o’r GIG ac sy’n arbenigo mewn datblygu datrysiadau gofal iechyd arloesol.
Rhowch 10 munud o’ch amser i rannu eich barn.