Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 10 munud yn sbâr? Helpwch ni i ddatblygu canolbwyntiau gofal cymdeithasol yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > 10 munud yn sbâr? Helpwch ni i ddatblygu canolbwyntiau gofal cymdeithasol yn Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

10 munud yn sbâr? Helpwch ni i ddatblygu canolbwyntiau gofal cymdeithasol yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 11, 2023 2:59 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Occupational therapy
RHANNU

Gofynnir i bobl yn Wrecsam rannu eu barn am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu cymuned.

Mae Cyngor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) yn chwilio am gyfleoedd i sefydlu canolbwyntiau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.

Fe fydd y canolbwyntiau yma’n dod â thimau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i ddarparu gwasanaethau lleol, wedi’u targedu. Efallai na fyddant o anghenraid mewn lleoliad corfforol sy’n cael ei rannu – fe allai ‘canolbwynt’ fod yn rhwydwaith o weithgareddau lleol, neu hyd yn oed yn dimau yn cydweithio dros y we.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Wrecsam: “Fe fydd lles yn ganolog i’r canolbwyntiau yma, gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i roi mynediad i chi i’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir pan fyddwch chi ei angen.

“Ond cyn i’r Cyngor, BIPBC a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ddatblygu eu syniadau, rydym angen gwybod mwy am brofiadau pobl.

“Rydym eisiau deall sut mae gwasanaethau lleol yn effeithio ar eich lles, ac a oes unrhyw beth yn eich atal rhag cael mynediad i’r gwasanaethau ar hyn o bryd.

“Rydym hefyd eisiau gwybod am flaenoriaethau yn eich cymuned, a’r cyfleoedd ar gyfer gwelliannau.
“Os oes gennych 10 munud, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg hwn. Mae eich cymorth yn hanfodol a bydd yn ein helpu ni i ddatblygu canolbwyntiau lles yn Wrecsam”.

Mae’r arolwg ar agor tan 1 Hydref ac mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan NECS (North of England Care System Support), sydd yn rhan o’r GIG ac sy’n arbenigo mewn datblygu datrysiadau gofal iechyd arloesol.

Rhowch 10 munud o’ch amser i rannu eich barn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwybodaeth Streiciau Undeb Unite – Diweddariad ar Reoli Gwastraff
Erthygl nesaf Teigan Trawsnewid bywydau: o lety â chefnogaeth i fyw’n annibynnol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English