Ydych chi wedi bod yn benthyca e-lyfrau ac e-lyfrau llafar am ddim o’r llyfrgell?
Mae’r ffordd rydych chi’n eu benthyca wedi newid, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ymlaen i weld beth sydd angen i chi ei wneud. Ac os nad ydych chi’n eu defnyddio’n barod, darllenwch ymlaen i weld beth rydych chi’n ei golli!
Os ydych chi wedi bod yn defnyddio https://wales.libraryebooks.co.uk/ i ddarllen eich e-lyfrau a’ch e-lyfrau llafar, bydd angen i chi gofrestru gyda BorrowBox. Gallwch wneud hynny yma. Gallwch hefyd lawrlwytho’r ap ar gyfer Apple neu Android.
Fel o’r blaen, mae’n hollol am ddim, a gallwch lawrlwytho hyd at saith e-lyfr A saith e-lyfr llafar ar yr un pryd, am 21 diwrnod! Gallwch hyd yn oed eu lawrlwytho pan rydych chi dramor.
Heb fenthyca o’r blaen?
Os nad ydych chi erioed wedi benthyca e-lyfr neu e-lyfr llafar o’ch llyfrgell, rydych chi wedi colli profiad gwych! Gwnewch yn siŵr bod gennych eich cerdyn llyfrgell wrth law, ac ewch i lawrlwytho’r ap rŵan. Byddwch hefyd angen eich rhif pin ar gyfer eich cerdyn llyfrgell, felly os nad oes gennych un yn barod, ewch i’ch llyfrgell leol gyda phrawf o’ch cyfeiriad.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR