Erthyl gwadd: CThEF
Ym mis Rhagfyr, gwnaeth y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth arbed arian ar gostau gofal plant i fwy na 15,000 o deuluoedd yng Nghymru. Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog y rhai sydd heb gofrestru eto i beidio â cholli allan.
Mae’r ffigurau diweddaraf a ddatgelwyd gan CThEF yn dangos bod 3,595 yn fwy o deuluoedd yng Nghymru yn defnyddio’r cynllun o’u cymharu â mis Rhagfyr 2021.
Cymorth ariannol i deuluoedd sy’n gweithio yw’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Mae’r cynllun ar gael i deuluoedd â phlant hyd at 11 oed, neu 16 oed os oes gan eu plentyn anabledd. Gellir defnyddio’r taliad atodol gan y llywodraeth i dalu am unrhyw ofal plant cymeradwy gan gynnwys clybiau gwyliau, clybiau brecwast neu ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd.
Ym mis Rhagfyr 2022, cafodd cyfanswm o £41.5 miliwn o daliadau atodol gan y llywodraeth eu rhoi i deuluoedd sy’n gweithio ar draws y DU. Roedd pob teulu yn arbed hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn neu £4,000 os yw eu plentyn yn anabl.
Dylai’r teuluoedd nad ydynt wedi’u cofrestru hyd yma wirio’u cymhwystra a gwneud cais ar-lein heddiw.
Mae agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn gyflym ac yn hawdd ac mae’n bosibl gwneud hynny unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Rydyn ni am helpu teuluoedd i wneud y gorau o’u harian a gall y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth helpu i dalu tuag at eu costau gofal plant. Chwiliwch am ‘Tax Free Childcare’ ar GOV.UK i ddysgu rhagor.”
Am bob £8 sy’n cael ei dalu i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, bydd teuluoedd yn cael £2 yn ychwanegol yn awtomatig. Mae teuluoedd yn gallu arbed hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) fesul plentyn neu £1,000 (£4,000 y flwyddyn) os yw eu plentyn yn anabl.
Mae gan fwy na miliwn o deuluoedd yn y DU hawl i ryw fath o gymorth gofal plant gan y llywodraeth, ac mae’r llywodraeth yn annog y rhai sy’n gymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Gall teuluoedd gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Gofal Plant syn Rhydd o Dreth drwy’r wefan Dewisiadau Gofal Plant.
Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael cymorth gyda chostau byw, gan gynnwys help gyda chostau gofal plant.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD