ty pawb

I wneud yn siŵr ein bod yn clywed lleisiau pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n byw yn Wrecsam rydym wedi trefnu digwyddiad yn Tŷ Pawb ar 23 Tachwedd, rhwng 6pm a 8.30pm ac mae gwahoddiad i chi gymryd rhan.

Hoffwn i chi roi gwybod i ni sut y gallwn eich helpu i’r byd gwaith.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Ni fydd yn ddiflas felly i ddweud diolch gallwch gymryd rhan mewn ambell weithgaredd fel Celf Graffiti, Dysgu dawns Tik Tok neu ddylunio crys t i fynd adref gyda chi. Mae yna hefyd waffl ac ysgytlaeth am ddim.

Mae archebu lle yn hanfodol a gallwch ffonio 802418 neu 820520 i wneud hynny.

Cyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Chymunedau am Waith sy’n noddi’r digwyddiad.

Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant, “Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y gallwn gefnogi pobl ifanc yn y ffordd yr hoffan nhw i ni wneud hynny. Byddwn yn annog unrhyw un rhwng 16 a 24 i fynychu fel ein bod yn gallu clywed eu safbwyntiau.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI