Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tŷ Pawb yn derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad Croeso Cymru!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Tŷ Pawb yn derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad Croeso Cymru!
Busnes ac addysgY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad Croeso Cymru!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 14, 2022 9:05 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ty Pawb
RHANNU

Mae Tŷ Pawb wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad gan Croeso Cymru yn dilyn asesiad diweddar.

Mae’r asesiad a’r achrediad yn adlewyrchu profiad yr ymwelwyr, ansawdd y cynnyrch a’r gwasanaethau a gynhigir gan yr atyniad a’r staff.

Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb am Tŷ Pawb, “Mae hyn yn newyddion ardderchog, ac mae’n haeddiannol iawn. Mae’n destament i’r weledigaeth a oedd gennym nifer o flynyddoedd yn ôl, i drawsffurfio neuadd farchnad a oedd yn ei chael hi’n anodd, yn atyniad i gyfuno marchnadoedd, celfyddyd a’r gymuned, a fyddai’n cynnig lle croesawgar i bobl o bob oed a diwylliant.

“Mae Tŷ Pawb yn cydnabod treftadaeth Wrecsam, sydd i’w weld yn amlwg yn nifer o’i arddangosfeydd, yn ogystal â cheisio cefnogi a meithrin talentau a busnesau newydd sy’n cael eu cynhyrchu yn Wrecsam.

“Hoffwn ddiolch i’r masnachwyr, staff ac ymwelwyr sydd wedi cyfrannu at y gydnabyddiaeth hon gan Croeso Cymru. Rwy’n gwybod fod ganddynt oll olwg gadarnhaol iawn ac mae eu hagwedd benderfynol a’u creadigrwydd wedi helpu i ffurfio’r lleoliad unigryw sy’n perthyn i Tŷ Pawb heddiw.”

Ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, â Tŷ Pawb yn ddiweddar a dywedodd: “Ar ôl gweld beth sydd gan Tŷ Pawb i’w gynnig, hoffwn longyfarch tîm Tŷ Pawb ar eu hachrediad diweddar gan Croeso Cymru – tîm haeddiannol. cydnabyddiaeth am ansawdd profiad yr ymwelydd. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo gyda’r daith o drawsnewid y gofod hwn yn ganolbwynt bywiog o weithgarwch ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr.”

Ers agor yn 2018, mae’r lleoliad wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill nifer o wobrau ar hyd y ffordd.  Eleni, cyrhaeddodd Tŷ Pawb rownd derfynol cystadleuaeth Amgueddfa’r Flwyddyn, y Gronfa Gelf. Cafodd ei gydnabod fel cyrchfan o safon yn genedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n denu ymwelwyr ac artistiaid o bell ac agos.

Mae 30 masnachwr annibynnol wedi’u lleoli yno, a gwerthir cynnyrch lleol gan fasnachwyr marchnad ac yn ei neuadd fwyd brysur. Mae yno oriel gelf o safon uchel, sydd ar hyn o bryd yn arddangos Arddangosfa Agored Tŷ Pawb, sy’n cynnwys gwaith gan dros 150 artist ar draws y wlad, sy’n gweithio mewn ystod o gyfryngau gan gynnwys paent, print a cherfluniau.

Mae lle yno i bawb a chynhelir digwyddiadau arbennig yno’n rheolaidd, gan gynnwys marchnadoedd dros dro, ffeiriau crefftau, cerddoriaeth fyw a chwaraeon. Bydd yn barth i gefnogwyr pan fydd Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd.

Ar y cyfan, mae’n ddiwrnod gwych i siopwyr ac ymwelwyr o bob oed.

Os nad ydych wedi bod yno eto – nawr yw’r amser i chi ymweld. Ceir mwy o wybodaeth am Tŷ Pawb yma.

Cofrestrwch rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] Cofrestrwch rŵan [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol garden Prosiectau Gerddi Cymunedol Wrecsam! Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Erthygl nesaf ty pawb 16 – 24 oed ac yn byw yn Wrecsam? Mae eich llais yn cyfri!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English