20 mlynedd yn ôl, agorodd Canolfan Adnoddau Parc Llai ei drysau i’r cyhoedd ac mae wedi profi ei hun fel canolbwynt cymunedol gwirioneddol ers hynny.
Agorwyd y ganolfan yn swyddogol yng ngwanwyn 2005 gan bêl-droediwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Chris Armstrong, fel cartref newydd i grwpiau lleol, digwyddiadau a llyfrgell Llai.
Mae llawer o grwpiau wedi mynd a dod dros y blynyddoedd gan gynnwys Ma’s Bar, Brigâd Bechgyn a Merched Llai, Afancod a Chybiau Llai, grwpiau rhieni, clwb ar ôl ysgol, U3A a dawnsio stryd. Mae sesiynau galw heibio rheolaidd wedi bod hefyd gyda’r heddlu lleol, y Swyddfa Cyngor ar Bopeth a thai Llai.
Dros y blynyddoedd, mae cannoedd o gyrsiau dysgu i oedolion wedi bod, gan gynnwys: cyflwyniad i gyfrifiaduron, gwneud cardiau, crefft siwgr, cerfio pren, sgiliau byw yn y gwyllt, uwchgylchu, Cymraeg, ffotograffiaeth ddigidol, dyfrlliwiau, cymorth cyntaf, sgiliau hanfodol ac ysgrifennu CV i enwi ond ychydig. Mae Canolfan Adnoddau Parc Llai wedi cofrestru 3,456 o ddysgwyr ar gyrsiau yn y ganolfan! Mae llawer o ddigwyddiadau codi arian wedi bod hefyd ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol, gan godi cyfanswm o £12,354.67. Yn olaf, mae hefyd yn gartref i bum busnes lleol – 1st Enable, caffi Central Park, Llay Barber’s Shop, Wrexham Chiropody and Podiatry, a Dy Le Di.
Mae Sarah Smallwood-Smith, gweithiwr cymorth yn y ganolfan, wrth ei bodd â’i swydd ac mae’n falch o’r hyn y mae’r ganolfan wedi’i gyflawni dros y ddau ddegawd diwethaf. Dywedodd: “Rydw i wedi gweithio yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai ers iddi agor ym mis Mai 2004 a dyma’r swydd orau yn y byd o hyd! Roeddwn wedi gorffen yn y brifysgol ac yn dal ddim yn gwybod beth yr oeddwn am fod ‘pan oeddwn yn hŷn’, felly gallwch ddweud fy mod wedi disgyn i’r rôl hon, ond rydw i wir yn teimlo ei fod ar fy nghyfer i! Mae teulu fy mam yn dod o Llai a fy nhad-cu oedd y gofalwr tir yn Sefydliad Lles Glowyr Llai, felly tyfais i fyny yn y pentref, ac mae gweithio yno’n teimlo fel mynd adref.
“Fy nhasg gyntaf pan ddechreuais weithio yn y ganolfan oedd gweithredu’r holl systemau gweinyddol, ac mae llawer ohonynt yn dal yn eu lle nawr. Yna, cefais y dasg o sicrhau cyrsiau dysgu i oedolion yn y ganolfan ar gyfer y trigolion lleol, yr wyf yn dal i’w gwneud heddiw ac yn cael cymaint o foddhad.
“Rydw i’n un o dri aelod o staff sydd wedi bod yn gweithio yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai o’r dechrau, mae fy nghydweithwyr Wendy a Tina yn dal yma hefyd – rydw i’n credu bod hyn yn dangos ei fod yn lle anhygoel i weithio! Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar y gymuned ac os byddant yn gofyn am gwrs penodol yn y ganolfan, byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio dod o hyd iddo a’i gyflwyno iddynt.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd: “Cyn i Ganolfan Adnoddau Parc Llai agor, roedd y llyfrgell mewn cwt yn Llai. Symudodd i’r ganolfan pan agorodd ac, ers hynny, mae wedi gweld 336,510 o ymwelwyr. Mae’r llyfrgell hefyd yn gartref i grwpiau cymunedol am ddim, gan gynnwys: grwpiau crefft i oedolion, grwpiau crefft i blant, clwb Lego, grŵp hel atgofion, clwb llyfrau, crefft memrwn, celf cyfryngau cymysg ac amser stori. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yma am eu gwaith caled dros y blynyddoedd wrth wneud y ganolfan yr hyn ydyw heddiw.”
Byddwn yn dathlu pen-blwydd y ganolfan yn 20 oed gyda digwyddiadau ledled y ganolfan – gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y blog hwn a’r cyfryngau cymdeithasol i gael y manylion.
Mae pum canolfan adnoddau ar draws y fwrdeistref sirol, pob un yn gwasanaethu’r gymuned leol ac ehangach. Gallwch gael gwybod am bob un ohonynt ar eu tudalen isod:
Canolfan adnoddau cymunedol Acton
Canolfan Adnoddau Plas Pentwyn, Coed-poeth