Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 20 mlynedd o Ganolfan Adnoddau Parc Llai
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > 20 mlynedd o Ganolfan Adnoddau Parc Llai
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

20 mlynedd o Ganolfan Adnoddau Parc Llai

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2025 2:08 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Llay Park resource centre
RHANNU

20 mlynedd yn ôl, agorodd Canolfan Adnoddau Parc Llai ei drysau i’r cyhoedd ac mae wedi profi ei hun fel canolbwynt cymunedol gwirioneddol ers hynny.

Agorwyd y ganolfan yn swyddogol yng ngwanwyn 2005 gan bêl-droediwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Chris Armstrong, fel cartref newydd i grwpiau lleol, digwyddiadau a llyfrgell Llai.

Mae llawer o grwpiau wedi mynd a dod dros y blynyddoedd gan gynnwys Ma’s Bar, Brigâd Bechgyn a Merched Llai, Afancod a Chybiau Llai, grwpiau rhieni, clwb ar ôl ysgol, U3A a dawnsio stryd. Mae sesiynau galw heibio rheolaidd wedi bod hefyd gyda’r heddlu lleol, y Swyddfa Cyngor ar Bopeth a thai Llai.

Dros y blynyddoedd, mae cannoedd o gyrsiau dysgu i oedolion wedi bod, gan gynnwys: cyflwyniad i gyfrifiaduron, gwneud cardiau, crefft siwgr, cerfio pren, sgiliau byw yn y gwyllt, uwchgylchu, Cymraeg, ffotograffiaeth ddigidol, dyfrlliwiau, cymorth cyntaf, sgiliau hanfodol ac ysgrifennu CV i enwi ond ychydig. Mae Canolfan Adnoddau Parc Llai wedi cofrestru 3,456 o ddysgwyr ar gyrsiau yn y ganolfan! Mae llawer o ddigwyddiadau codi arian wedi bod hefyd ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol, gan godi cyfanswm o £12,354.67. Yn olaf, mae hefyd yn gartref i bum busnes lleol – 1st Enable, caffi Central Park, Llay Barber’s Shop, Wrexham Chiropody and Podiatry, a Dy Le Di.

Mae Sarah Smallwood-Smith, gweithiwr cymorth yn y ganolfan, wrth ei bodd â’i swydd ac mae’n falch o’r hyn y mae’r ganolfan wedi’i gyflawni dros y ddau ddegawd diwethaf. Dywedodd:  “Rydw i wedi gweithio yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai ers iddi agor ym mis Mai 2004 a dyma’r swydd orau yn y byd o hyd! Roeddwn wedi gorffen yn y brifysgol ac yn dal ddim yn gwybod beth yr oeddwn am fod ‘pan oeddwn yn hŷn’, felly gallwch ddweud fy mod wedi disgyn i’r rôl hon, ond rydw i wir yn teimlo ei fod ar fy nghyfer i! Mae teulu fy mam yn dod o Llai a fy nhad-cu oedd y gofalwr tir yn Sefydliad Lles Glowyr Llai, felly tyfais i fyny yn y pentref, ac mae gweithio yno’n teimlo fel mynd adref. 

“Fy nhasg gyntaf pan ddechreuais weithio yn y ganolfan oedd gweithredu’r holl systemau gweinyddol, ac mae llawer ohonynt yn dal yn eu lle nawr. Yna, cefais y dasg o sicrhau cyrsiau dysgu i oedolion yn y ganolfan ar gyfer y trigolion lleol, yr wyf yn dal i’w gwneud heddiw ac yn cael cymaint o foddhad. 

“Rydw i’n un o dri aelod o staff sydd wedi bod yn gweithio yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai o’r dechrau, mae fy nghydweithwyr Wendy a Tina yn dal yma hefyd – rydw i’n credu bod hyn yn dangos ei fod yn lle anhygoel i weithio!  Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar y gymuned ac os byddant yn gofyn am gwrs penodol yn y ganolfan, byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio dod o hyd iddo a’i gyflwyno iddynt.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd: “Cyn i Ganolfan Adnoddau Parc Llai agor, roedd y llyfrgell mewn cwt yn Llai. Symudodd i’r ganolfan pan agorodd ac, ers hynny, mae wedi gweld 336,510 o ymwelwyr. Mae’r llyfrgell hefyd yn gartref i grwpiau cymunedol am ddim, gan gynnwys: grwpiau crefft i oedolion, grwpiau crefft i blant, clwb Lego, grŵp hel atgofion, clwb llyfrau, crefft memrwn, celf cyfryngau cymysg ac amser stori. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yma am eu gwaith caled dros y blynyddoedd wrth wneud y ganolfan yr hyn ydyw heddiw.”

Byddwn yn dathlu pen-blwydd y ganolfan yn 20 oed gyda digwyddiadau ledled y ganolfan – gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y blog hwn a’r cyfryngau cymdeithasol i gael y manylion.

Mae pum canolfan adnoddau ar draws y fwrdeistref sirol, pob un yn gwasanaethu’r gymuned leol ac ehangach. Gallwch gael gwybod am bob un ohonynt ar eu tudalen isod:

Canolfan adnoddau cymunedol Acton

Canolfan Adnoddau Parc Llai

Canolfan Adnoddau Plas Pentwyn, Coed-poeth

Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Canolfan Goffa Brynteg

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mr Bob Dutton OBE Teyrnged i Mr Bob Dutton OBE
Erthygl nesaf Diwrnod Canser Y Byd (4ydd Chwefror) Galwad brys am wirfoddolwyr bôn-gelloedd i helpu person ifanc yn ei arddegau gyda lewcemia Diwrnod Canser Y Byd (4ydd Chwefror) Galwad brys am wirfoddolwyr bôn-gelloedd i helpu person ifanc yn ei arddegau gyda lewcemia

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English