Mae British Cycling wedi cadarnhau heddiw y bydd carfan Tîm Beicio Prydain yn cymryd rhan yn Nhaith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024, a fydd yn dechrau yn y Trallwng ddydd Iau, 6 Mehefin.
Mae 6 o feicwyr cryf yn y garfan hon, gan gynnwys cyn-bencampwraig beicio ffordd y byd ac enillydd y Daith i Ferched yn 2016 a 2019, Lizzie Deignan MBE (Lidl-Trek) ac enillydd medal aur Olympaidd a phencampwraig beicio trac y byd saith gwaith, Elinor Barker MBE (Uno-X Mobility).
Ynghyd â Barker, bydd Elynor Bäckstedt (Lidl-Trek) yn cynrychioli Cymru, a disgwylir i’r ddwy gael croeso cynnes yn ystod dau gymal agoriadol y ras a gaiff eu cynnal yng Nghymru fis nesaf.
Bydd Anna Henderson (Team Visma | Lease a Bike) yn ymuno â nhw hefyd a ddaeth yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Treial Amser Unigol y Byd ac yn ail yn yr un digwyddiad ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd Beicio Ffordd yr UEC.
Hefyd yn y garfan mae Millie Couzens (Fenix-Deceuninck) a Flora Perkins (Tîm Datblygu Fenix-Deceuninck).
Gyda Gemau Olympaidd Paris 2024 ar y gorwel, bydd cyfle i wylwyr weld rhai o’r goreuon wrth eu gwaith yn eu hardal leol fis nesaf.
Meddai Cyfarwyddwr Perfformiad British Cycling, Stephen Park CBE: “Mae’n bleser gennym gadarnhau tîm beicio cryf ar gyfer Prydain yn y Daith Prydain Lloyds Bank gyntaf i Ferched.
“Rydym yn gwybod y bydd y tîm yn mwynhau’r cyfle prin hwn i gymryd rhan mewn ras yn eu hardal leol, ac i aelodau’r garfan sy’n gobeithio mynd i Baris, bydd y digwyddiad yn gam allweddol yn y paratoadau terfynol ar gyfer y Gemau Olympaidd. Gwyddwn hefyd y byddant yn dod â chryfder a safon i’r ras ac yn disgwyl i gefnogwyr ddod allan yn llu i ddangos eu cefnogaeth.”
Ychwanegodd Elinor Barker: “Mae’n deimlad arbennig iawn cael rasio yn ein hardal leol lle mae egni a chefnogaeth y dorf yn ddiguro. Yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen yn arw at y ddau gymal a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru ar ffyrdd eiconig. Mae’n argoeli i fod yn ras heriol a chystadleuol.
“Cynhelir Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched yn ystod cyfnod pwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer haf prysur o feicio. Credaf fy mod yn siarad ar ran y garfan gyfan wrth ddweud ein bod yn barod ac yn methu aros i gynnig sioe a hanner i chi ym mis Mehefin.”
Bydd Tîm Beicio Prydain yn ymuno â’r pedwar tîm Taith Byd UCI Merched a’r naw tîm Cyfandirol UCI Merched sydd wedi cael eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched.
Bydd y ras pedwar cymal yn dechrau ddydd Iau, 6 Mehefin ac yn gorffen yn Leigh, Manceinion Fwyaf. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y cymal cyntaf a’r ail gymal yma, y trydydd cymal yma a’r cymal olaf yma.
Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024 :
- Elynor Bäckstedt (Lidl-Trek)
- Elinor Barker MBE (Uno-X Mobility)
- Millie Couzens (Fenix-Deceuninck)
- Lizzie Deignan MBE (Lidl-Trek)
- Anna Henderson (Team Visma | Lease a Bike)
- Flora Perkins (Fenix-Deceuninck)
Rhestr lawn o dimoedd Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024:
- Great Britain Cycling Team
- SD-Worx – Protime (WTW)
- Team dsm firmenich PostNL (WTW)
- Liv AlUla Jayco (WTW)
- Human Powered Health (WTW)
- Cofidis (CTW)
- AG Insurance – Soudal (CTW)
- VolkerWessels (CTW)
- St. Michel – Mavic – Auber93 WE (CTW)
- Torelli (CTW)
- Alba Development Road Team (CTW)
- DAS-Hutchinson-Brother UK (CTW)
- Doltcini-O’Shea (CTW)
- Hess Cycling Team (CTW)
- Lifeplus-Wahoo (CTW)
- Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting (CTW)
Llwybr ras y merched Taith Prydain 2024
Cymal 1 – Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno
Cymal 2 – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam
Cymal 3 – Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington
Cymal 4 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf: Canolfan Feicio Genedlaethol i Leigh
Os ydych am ddod i ganol y ddinas ar gyfer y digwyddiad gwiriwch y trefniadau parcio a’r ffyrdd a fydd ar gau er mwyn sicrhau diogelwch pawb Gwybodaeth am ffyrdd ar gau a meysydd parcio yng nghanol y ddinas ar gyfer Taith Prydain Merched
Credit SWpix